Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
I gyd-fynd â dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion yn 2022, edrychwn ar darddiad a datblygiad yr Eisteddfod Genedlaethol drwy gasgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O lawysgrifau Iolo Morganwg yn ymwneud â sefydlu Gorsedd y Beirdd i farddoniaeth a rhyddiaith enillwyr y gorffennol, mae’r arddangosfa hon yn dathlu hanes a thraddodiad yr Eisteddfod ddoe a heddiw.