Symud i'r prif gynnwys

Oriel Gregynog

14.02.22 – 06.08.22

Mae casglu yn rhan hanfodol o waith y Llyfrgell gyda ffocws diweddar ar gofnodi profiadau amrywiol Cymru gyfoes. Mae gan y Llyfrgell amrywiaeth eang o ddeunydd diwylliannol a hanesyddol sy’n cwmpasu gweithiau celf, archifau, llawysgrifau, ffotograffau, ffilm, sain, mapiau a deunydd printiedig. Dyma gyfle i weld detholiad o eitemau a gasglwyd yn ddiweddar sy’n adlewyrchu gorffennol, presennol a dyfodol Cymru. Dewis archifwyr, curaduron a llyfrgellwyr yw’r rhain; eitemau sy’n adlewyrchu rhai o uchafbwyntiau ein casglu diweddar a pharhaus.