Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
I'w arddangos yn barhaol
Y darn bregus hwn o bren yw'r cyfan sy'n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
Mae union darddiad y Cwpan yn ddirgelwch mawr, ond ymddengys iddo ddod o Abaty Ystrad Fflur i feddiant teulu Powell Nanteos yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd.
Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, y Cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf. Ers y 19eg ganrif honnir bod grym iachau goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan. Yn ôl pob son, byddai'r Cwpan yn cael ei roi ar fenthyg i gleifion, ac ernes werthfawr, megis arian neu oriawr drud, yn cael ei adael yn Nanteos, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd yn ddiogel i'r plas.
Gallwch weld y Cwpan a dysgu mwy am ei hanes yn arddangosfa Trysorau.