Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Rydym yn aml yn cael ein rhybuddio i beidio â barnu llyfr yn ôl ei glawr, ond mae'n anodd anwybyddu'r llyfrau cain a hardd sy'n rhan o gasgliad Rhwymiadau Cain y Llyfrgell. O rwymiad pren arbrofol Fictoraidd i ddyluniadau mwy cyfoes wedi’u hysbrydoli gan y tudalennau oddi mewn, mae'r llyfrau i’w gweld yn yr arddangosfa hon yn ddathliad o’r sgil uchaf un yn y grefft o rwymo llyfrau.