Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
6.4.19 - 27.7.19
Mae'r Llyfrgell ar agor i'r cyhoedd fel arfer yn ystod y gwaith adnewyddu. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn a'i effaith posib ar wasanaethau ar ein tudalen Gwaith Adeiladu.
Dewch i ddarganfod ychwanegiadau trawiadol newydd i'n casgliad celf Cymreig cyfoes. O waith haniaethol geometrig i argraffiadaeth gyfoes, mae’r arddangosfa hon yn dangos ystod eang o arddull amrywiol artistiaid Cymreig yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael ac mae’r detholiad hwn yn cynrychioli’n derbynion diweddar.
Ymhlith yr artistitiad mae Iwan Bala, Mary Lloyd Jones, Elfyn Lewis, Paul Peter Piech, Ceri Richards, Lisa Eurgain Taylor, Ernest Zobole ac Sarah Carvell (llun uwchben).
Cau arddangosfa: Bydd arddangosfa Casglu Cyfoes ar gau o 27 Gorffennaf 2019 er mwyn adnewyddu Prif Gyntedd ac Uwch-gyntedd y Llyfrgell. Byddwn yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a'r dudalen hon i roi gwybod i ymwelwyr pryd mae'n debygol o ailagor pan ddaw'r wybodaeth hon i law.