Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Arddangosfa mewn partneriaeth â Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, trwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canoloesol a Modern, i’r ehangiad enfawr mewn geirfa a ddeilliodd o’r defnydd ehangach o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf. Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar ddatblygiad y geiriadur Cymraeg ers ei ffurfiau cynharaf, hyd at sefydlu Geiriadur Prifysgol Cymru yn 1921, ac ymlaen hyd heddiw.