Symud i'r prif gynnwys

Anecs Gregynog

13.05.23 – 11.11.23

Mae Dylan Thomas yn cael ei ystyried yn un o feirdd gorau Cymru.  Er bod ei fywyd yn fyr ac yn llawn anhrefn, roedd yn awdur toreithiog a gynhyrchodd gerddi, straeon byrion, darllediadau a nofel. Gellir dadlau mai ei ddrama-i-leisiau, Under Milk Wood, yw ei waith enwocaf, ac mae’r arddangosfa hon yn dathlu 70 mlynedd ers y perfformiad cyntaf o’r ddrama yn Efrog Newydd.  

Dewch gyda ni ar daith o Milk Wood i Manhattan, gan edrych ar amser Dylan yn Efrog Newydd, creadigaeth Llareggub a’i gymeriadau ac etifeddiaeth barhaol Under Milk Wood.

Eitemau arbennig:

  • Sgript wreiddiol Under Milk Wood a ddefnyddiwyd gan Dylan ar gyfer recordiad 1953
  • Y recordiad gwreiddiol a wnaed o’r perfformiad yn Efrog Newydd, sef yr unig fersiwn gyda Dylan yn cymryd rhan
  • Casgliad o bortreadau unigryw o Dylan yn Efrog Newydd gan yr artist Peter Evershed, a phortreadau o gymeriadau Under Milk Wood gan un o artistiaid mawr Cymru, Ceri Richards