Symud i'r prif gynnwys

19.07.21 - 12.02.21

Mae’r term ‘gwaith ar bapur’ yn un eang iawn, sy’n cofleidio popeth o baentiadau olew, i brintiau leino a thameidiau o bapur wedi’u haddurno â sgribliadau.  Yr hyn sy’n gyffredin i’r cyfan yw eu bod wedi’u creu ar bapur, ac yn aml iawn yn dathlu’r deunydd amryddawn hwn.  Yma gwelir lluniau dyfrlliw, pritniadau, gludweithiau, brasluniau a pheintiadau gan rai o artistiaid amlycaf Cymru.    

 phynciau’n amrywio o archwiliadau o weithredaeth gwleidyddol, hiliaeth a bywyd ffoaduriaid ochr yn ochr â phynciau mwy traddodiadol fel y ffurf ddynol a’r byd naturiol, mae’r arddangosfa hon yn cynnig cipolwg i amrywiaeth a chyfoeth y gweithiau ar bapur yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.