Symud i'r prif gynnwys

Uwch Gyntedd
Mai 2023 – Chwefror 2024

Ym 1923, ar ôl colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, trefnodd menywod Cymru ymgyrch ryfeddol dros heddwch. Arwyddodd bron i 400,000 o fenywod ddeiseb yn apelio ar fenywod America i ymuno â nhw 'o aelwyd i aelwyd' i alw am heddwch.

Ym 1924 dan arweiniad Annie Hughes Griffiths teithiodd grŵp o Gymru i America fel llysgenhadon heddwch.  Cyflwynwyd cist bren yn llawn o’r holl lofnodion i'r Smithsonian Institute yn Washington, a cyflwynwyd yr apêl mewn cyfrol brydferth i Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Ganrif yn ddiweddarach mae’r stori’n parhau.  Mae’r gist a’r llofnodion yn ôl yng Nghymru, ac i’w gweld ochr yn ochr â dyddiadur Annie yma yn y Llyfrgell.