Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Arddangosfa gyffrous i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl 1620, sef y testun safonol o’r Beibl yn Gymraeg am bron 400 mlynedd. Mae’r arddangosfa arbennig hon, gan guradur gwadd, yr Athro E. Wyn James, yn edrych ar arwyddocâd a dylanwad aruthrol Beibl 1620 dros y canrifoedd, yn grefyddol, addysgiadol, cymdeithasol ac ieithyddol. Y mae hefyd yn edrych ar fywyd a chyfraniad yr ysgolhaig mawr, Dr John Davies, Mallwyd, prif olygydd Beibl 1620, ac yn cynnwys eitemau sydd nid yn unig o bwys mawr yn hanes Cymru, ond sydd hefyd o arwyddocâd rhyngwladol, ac yn eu plith gyfieithiadau o’r Beibl gan Gymry i ieithoedd eraill ar draws y byd, a’r Beibl eiconig a gafodd Mary Jones gan Thomas Charles o’r Bala. Mae stori Mary Jones ynghlwm wrth sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804, ac mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle unigryw i weld nifer o eitemau sy’n agos gysylltiedig â Mary Jones gyda’i gilydd am y tro cyntaf erioed.