Symud i'r prif gynnwys

01 Mehefin 2024 - 28 Medi 2024

Peniarth

Mae Asia yn gartref i dros 4.7 biliwn o bobl gyda thua 2,300 o ieithoedd a dyma wraidd rhai o wareiddiadau hynaf y byd. Yn adnabyddus am ei ddyluniad cywrain, dillad a bwyd, mae dylanwad diwylliannol Asia ar y byd yn sylweddol. 

Yn ôl Cyfrifiad 2021, yr ail grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, gyda chyfanswm o 89,000 o bobl. 

Mae’r arddangosfa hon wedi’i churadu gan Swyddog Prosiect Dadgoloneiddio Archifau y Llyfrgell Genedlaethol, Miidong P. Daloeng. Mae’n deillio o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth Cymru. Ei nod hefyd yw arddangos yr adnoddau sydd ar gael yn ein casgliad. 

Rydym yn eich gwahodd i archwilio’r delweddau hynod hyn, rhai ohonynt wedi’u lliwio â llaw, a gymerwyd o albymau J. R. Harding, Dolaucothi, a Bourne & Shepherd (Indian Views) ochr yn ochr â ffilmiau o’n casgliad clyweledol.

Beth welwch chi?