Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys eitemau o gasgliadau amrywiol y Llyfrgell Genedlaethol i nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan yn 1966.
Mae'n cynnwys eitemau a ddigidwyd ar gyfer tudalen we newydd sydd yn casglu ynghyd eitemau o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn adrodd hanes y drychineb a'r ymateb iddo. Gallwch weld y cynnwys digidol ar y dudalen Trychineb Aberfan 1966.
Ceir hefyd gopi caligraffi cain o Lyfr Cofio Bethania Aberfan sydd yn nodi enwau y rhai a gollodd eu bywydau yn y drychineb. Byddwn yn arddangos cerdd gomisiwn gan Grug Muse ochr yn ochr a map arbennig o Aberfan a gafodd ei greu yn dilyn y drychineb. Hefyd bydd nifer o eitemau o archif Karl Jenkins i'w gweld, a chopi personol y cyfansoddwr o'r sgôr Cantata Memoria. For the children – Er mwyn y plant (2016).