Oriel Gregynog
25.07.26 – 10.04.27
“Datblygu iaith bersonol gyfoethog o liw yn ymateb i’r profiad rhyfeddol o fannau arbennig yw sail fy ngwaith.”
Mae Mary Lloyd Jones yn un o artistiaid pwysicaf Cymru. Ganed hi ym 1934 ym Mhontarfynach a hyfforddwyd hi yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi bod yn arddangos ei gwaith ers y 1960au, gan ymladd ei ffordd at fod un o ffigyrau mwyaf dylanwadol celf weledol Cymru. Dros y blynyddoedd, mae ei gwaith wedi mynd â hi i bedwar ban byd, ond yn ôl at dirweddau Ceredigion y daw am ei hysbrydoliaeth pennaf.
Drwy ddefnydd beiddgar o liw a haenau o farciau amrywiol, mae Mary yn creu iaith weledol unigryw sy’n uno’r personol â’r hanesyddol. Mae ei gwaith yn symud rhwng paentio a thecstilau, lle mae’r broses o drin defnydd yn rhan annatod o’r ystyr. Daw’r marciau sy’n britho’i chynfasau mawr o ffynonellau amrywiol - o gerfiadau cynhanesyddol i systemau iaith - gan adlewyrchu’r ffordd y mae pobl wedi ceisio cofnodi a dehongli eu byd.
Mae Mary Lloyd Jones: Haenau yn ddathliad o fywyd a gwaith Mary. Wedi’i seilio ar yrfa o dros chwe degawd ac archif helaeth a roddwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar, mae’r arddangosfa’n archwilio’r themâu sydd wedi siapio ei gwaith: y tir, iaith, olion hanesyddol a hunaniaeth.
Dyma’ch gwahodd i olrhain esblygiad ei gwaith ac i ddathlu oes o greadigrwydd llawn lliw.
Hygyrchedd
Mae'r arddangosfa ar y llawr uchaf gyda mynediad lifft. Os oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol gennych, cysylltwch â'r Llyfrgell ymlaen llaw.
Mae taith sain ar gael, sy'n cynnwys disgrifiadau sain ar gyfer rhai eitemau yn yr arddangosfa.
Mae llyfrynnau print bras a phecynnau adnoddau synhwyraidd ar gael wrth fynedfa'r oriel.