Mae'r dudalen we hon yn cynnwys nifer o eitemau sy'n ymwneud â Thrychineb Aberfan gan gynnwys deunydd ffotograffig a chlyweledol. Mae ystyriaethau helaeth wedi'u gwneud ar sensitifrwydd wrth ddewis deunydd o gasgliadau'r Llyfrgell i'w ddigido. Fodd bynnag, efallai y bydd defnyddwyr yn gweld y cynnwys yn peri gofid.
Rhybudd Cynnwys
Cefndir
Ar 21 Hydref, 1966, tua 9yb ar ddiwrnod olaf y tymor yn Ysgol Gynradd Pantglas, fe wnaeth tomen rhif 7 yng Nglofa Dyffryn Merthyr ddymchwel ar ôl dechrau symud yn gynharach yn y bore oherwydd yr ansefydlogrwydd o'r ffynnon danddaearol. Arweiniodd hyn at y gwastraff glo yn llithro i'r pentref islaw, gan hylifo yn y broses. Gan symud ar gyflymder uchel, dinistriodd y tirlithriad sawl tŷ a tharo ochr Ysgol Iau Pantglas. Bu farw 144 o bobl, ac roedd 116 ohonynt yn blant. Cafwyd ymdrech achub enfawr gan y gymuned leol a phobl ledled Cymru i achub y rhai oedd yn gaeth o dan y malurion. Er bod llawer wedi cael eu hachub, ni chafwyd hyd i unrhyw oroeswyr ar ôl 11yb.
Y Prosiect
Nod y prosiect hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd ag Archifau Morgannwg, yw adrodd stori Trychineb Aberfan ymhellach a sut ymatebodd y gymuned i drasiedi o'r fath. Dewiswyd sawl eitem o gasgliadau'r Llyfrgell, y rhan fwyaf ohonynt o Gronfa Trychineb Aberfan, Cymdeithas Rhieni a Thrigolion Aberfan, a Phapurau Erastus Jones.
Y dudalen we hon yw penllanw’r gwaith hwnnw, gan gasglu'r deunydd wedi'i ddigido at ei gilydd i yn adnodd ar-lein y bydd pobl yn gallu ei archwilio a deall yn well beth ddigwyddodd yn y dyddiau, y misoedd a’r blynyddoedd ar ôl 21 Hydref, 1966.
Y Dudalen We
Mae'r dudalen we hon wedi'i rhannu'n sawl is-adran sy'n ymdrin â'r gwahanol fathau o eitemau a geir ymhlith y casgliadau. Gellir dod o hyd i’r is-adrannau drwy'r dolenni isod. Mae rhai eitemau’n perthyn i sawl categori ond maent wedi'u gosod gyda deunydd perthnasol wrth benderfynu ar y lleoliad gorau. Mae pob tudalen yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys diwrnod y Trychineb, yr ymateb cychwynnol, tystiolaeth y tribiwnlys, ailddatblygu cymunedol, a myfyrdodau ar y Trychineb flynyddoedd yn ddiweddarach.
Adnoddau Addysgol Aberfan
Archwiliwch yr adnoddau addysgol sy'n ymwneud â Thrychineb Aberfan gan gynnwys cyflwyniad rhyngweithiol
Darganfod & Dysgu
- Arddangosfeydd arlein
- Europeana Rise of Literacy
- Illingworth
- David Lloyd George
- Calendr Cymru a'r Byd
- Llawysgrifau
- Archifau
- Trychineb Aberfan 1966
- Deiseb Heddwch Menywod Cymru
- Ystrad Marchell (Cofnodion Ystad Wynnstay)
- Gwrachyddiaeth
- Notitiae Llanelwy
- Llyfr Festri
- Collectanea Menevensia
- Yr Anthem Genedlaethol
- Papurau Syr John Rhŷs: llythyrau a chardiau wrth Whitley Stokes, 1871-1909 (A1/3/5)
- Cofnodion Tribiwnlysoedd (Apêl) y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi
- Dyddiadur Lloyd George
- Llythyron Lloyd George
- Papurau Alun Lewis, Barddoniaeth (MS 1)
- Deunydd print
- Darluniau
- Mapiau
- Ffotograffau
- Dylan Thomas
- Addysg
- Prosiectau ar y cyd