Llythyrau'n ffenestr i wleidyddiaeth y dydd
Mae'r llythyron yn arbennig o gyflawn ar gyfer y cyfnod cyn apwyntio Lloyd George i'r cabinet yn Llywydd y Bwrdd Masnach ddiwedd 1905. Wedi hynny, y mae llawer ohonynt yn nodiadau byrion, wedi eu sgriblo'n gyflym, ond â'r fantais amhrisiadwy o roi ymateb uniongyrchol yr awdur i ddigwyddiadau fel yr oeddent yn taro.
Weithiau roedd y rhain yn ddigwyddiadau cenedlaethol o bwys mawr. Y mae newyddion gwleidyddol a newyddion teuluol yn cyd-gymysgu'n hawdd wrth i'r awdur newid yn rhwydd rhwng y Saesneg a'r Gymraeg, efallai er mwyn trechu llygaid busneslyd y gwasanaethau diogelwch.
Y mae llawer o'r llythyron cynnar yn trafod achosion cyfreithiol mewn cryn fanylder a materion eraill yn ymwneud â busnes cyfreithiol y teulu Lloyd George and George. Elw o'r busnes a alluogai'r gwleidydd ifanc uchelgeisiol i aros yn San Steffan cyn y dechreuwyd talu aelodau seneddol yn 1911.
Daw llawer o'r trobwyntiau yng ngyrfa wleidyddol Lloyd George yn fyw trwy'r llythyron, a cheir golwg newydd ar wleidyddiaeth fewnol Bwrdeistrefi Caernarfon, rôl Lloyd George yn ystod Rhyfel y Boer a'i ymgyrch yn erbyn trefniadau Deddf Addysg Balfour 1902. Mae llythyron diweddarach yn cyfeirio at apwyntiad Lloyd George yn Llywydd y Bwrdd Masnach a'i ddyrchafiad i fod yn Ganghellor y Trysorlys yn Ebrill 1908.
Mae llawer o gyfeiriadau hefyd at baratoad, cyflwyniad a chanlyniad 'Cyllideb y bobl' 1909, ysbryd milwriaethus y mudiadau llafur a'r suffragettes yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif, a digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfeirir at waith Lloyd George gyda'r Weinyddiaeth Arfau a'r Weinyddiaeth Ryfel mewn nifer o nodion byrion, yn ogystal â'i apwyntiad yn Brif Weinidog pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth yn Rhagfyr 1916.
Mae'r llythyron yn llawn o gyfeiriadau at gyfoeswyr, yn arbennig gwleidyddion Rhyddfrydol eraill. Datgela'r llythyron hefyd lawer ynglŷn â pherthynas Lloyd George ag aelodau o'i deulu.