Papurau Alun Lewis
Mae’r llawysgrif yma’n rhan o gasgliad o lawysgrifau a phapurau a roddwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan ei weddw ym Mehefin 1988. Derbyniwyd llyfrau ac eitemau eraill ar yr un pryd, yn ogystal ag ysgythriad ohono gan John Petts a ddefnyddiwyd ar glawr y cyhoeddiad cyntaf o’i gerddi, Raiders' Dawn and other poems ym 1942. Dyma’r unig gasgliad o’i gerddi a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd, casgliad a’i sefydlodd yn un o feirdd gorau ei genhedlaeth. Cafodd y gyfrol dderbyniad da gan y cyhoedd a’r adolygwyr, a bu’n rhaid ei hail-argraffu 6 gwaith. Ysgrifennai’n bennaf amdano’i hun o fewn ffiniau cul y rhyfel, ac ef oedd un o’r ychydig o feirdd mawr a gofnododd eu profiad o’r Ail Ryfel Byd ar gân. Cyfansoddwyd y mwyafrif o’r cerddi yn ystod ei gyfnod fel milwr yn y gwersylloedd hyfforddi, a thra’n byw ymysg pobl y dinasoedd a fomiwyd. Mae’r cerddi’n sôn am unigrwydd bywyd milwr, gydag ymwybyddiaeth realistig am farwolaeth, ac am gariad yng nghysgod angau gyda ‘gonestrwydd teimladwy milwr Prydeinig’. Maent yn ‘datgelu pryder tosturiol am ddioddefwyr gorthrwm a gormes: glowyr Cymreig, milwyr preifat, gwragedd a phlant.'
Mae’r llawysgrif yma’n un o 6 a grëwyd o dudalennau rhydd a ffeiliwyd yn LlGC. Mae’n cynnwys drafftiau mewn llawysgrifen a theipysgrif, copïau glân, adysgrifau, ac mewn rhai achosion fersiynau cynharach o gerddi a gyhoeddwyd yn Raiders' Dawn and other poems. Rhestrir y cerddi yn y drefn yr ymddangosant yn y gyfrol gyhoeddedig.