Chwilio tu fewn
Nid yw'r ffwythiant 'Chwilio tu fewn i' ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Cofnodion Tribiwnlys Rhyfel Mawr Sir Aberteifi yn rhoi mewnwelediad rhyfeddol i fywyd y dynion a alwyd i’r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maen nhw’n cynnwys manylion personol, gwybodaeth am gyflogaeth, rhesymau dros ofyn am gael eu heithio rhag ymrestru yn y lluoedd arfog, pendefyniad y tribiwnlys a’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.
Er bod tribiwnlysoedd wedi’u sefydlu trwy Gymru, cofnodion Sir Aberteifi yw’r unig rai sydd wedi’u cadw, ac yn cynnwys cofnodion y tribiwnlys a fu’n cwrdd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llambed, Cei Newydd a Thregaron.
Yn Ionawr 1916, wrth i’r Rhyfel Byd Gyntaf barhau heb ddiwedd yn y golwg, cyflwynodd Llywodraeth Prydain Ddeddf Gwasanaeth Milwrol. Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob dyn rhwng 18 a 41 oed ymrestru ar gyfer gwasanaeth milwrol, oni bai bod ganddynt dystysgrif i’w heithrio.
Gellid hawlio eithriad ar sail gwaith hanfodol i’r rhyfel, iechyd gwael, anghenion teuluol neu wrthwynebiad cydwybodol. Cyflwynwyd apeliadau yn erbyn gorfodaeth i dribiwnlysoedd apeliadau gwasasanaeth milwrol; byddai tribiwnlys yn cyfarfod i drafod a phenderfynu ar achosion, a byddai tribiwnlys ar gyfer y sir cyfan yn gwrando ar apeliadau. Sefydlwyd tua 2,000 o dribiwnlysoedd ar draws Ynysoedd Prydain.
Yn 1921, gorchmynnodd y Llywodraeth ddinistrio’u cofnodion, gydag eithriad o ddwy set gyflawn oedd i’w cadw: un yn Middlesex a’r llall yn Lothian & Peebles yn yr Alban. Fodd bynnag, goroesodd cofnodion Sir Aberteifi hefyd, ac maen nhw bellach yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r archif hon yn unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig iawn sy’n dal i fodoli.
Cafodd cofnodion y Tribiwnlysoedd eu trawsgrifio yn 2018 fel rhan o Raglen Gwirfoddolwyr LlGC, gan ddefnyddio’r llwyfan torfoli Torf. Cafodd gweithdai eu cynnal trwy Geredigion gyda chymorth nawdd oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri. Cafodd y cofnodion, sy’n cynnwys dros 10,000 o dudalennau, eu trawsgrifio gan dros 200 o wirfoddolwyr dros gyfnod o chwe mis.
Nid yw'r ffwythiant 'Chwilio tu fewn i' ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Rydym yn rhoi mynediad i ffynonellau chwiliadwy eraill, ac efallai eu bod yn cynnws mwy o wybodaeth am rai o’r unigolion gyflwynodd apeliadau i’r Tribiwnlysoedd. Ceisiwch chwilio am enw person yn un o’r canlynol:
Byddai gennym ddiddordeb clywed am unrhyw gysylltiadau y byddwch wedi’u darganfod rhwng cofnodion y Tribiwnlys a’r adnoddau hyn. Anfonwch eich straeon atom trwy’r Gwasanaeth Ymholiadau, os gwelwch yn dda.