Symud i'r prif gynnwys

Cofnodion plwyf Llanbedr Pont Steffan 1

Beth oedd cyfarfodydd festri?

O'r unfed ganrif ar bymtheg tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan y plwyf fel uned weinyddol fwy a mwy o gyfrifoldeb dros faterion megis darparu ar gyfer y tlodion, cynnal a gwella priffyrdd, ac am rai agweddau ar gyfraith a threfn.

Cyfrifoldeb festri'r plwyf oedd sicrhau fod dyletswyddau gweinyddol y plwyf yn cael eu gweithredu. Byddai cyfarfodydd festri yn agored i bawb yn y plwyf, ond fel arfer dim ond y trigolion amlwg oedd yn rhan o'r trafodaethau. Fel yr awgryma'r enw, cynhelid y cyfarfodydd yn festri eglwys y plwyf, ond yn aml byddai'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal (neu 'adjourned to' yng ngeiriau'r cofnodion) yn nhŷ un o'r plwyfolion, neu yn y dafarn leol. Ni chyfyngwyd cyfarfodydd festri i eglwyswyr yn unig, byddai anghydffurfwyr hefyd yn rhan o'r trafod a'r penderfynu ar faterion megis codi trethi a phenodi swyddogion.


Cofnodion cyfarfodydd festri

Mae cofnodion cyfarfodydd festri fel arfer yn gryno. Cofnodir penderfyniadau ac arwyddir y cofnod gan bawb sy'n bresennol. Mae'r cofnod yn llyfr festri Llanbedr Pont Steffan ar gyfer 19 Gorffennaf 1779 yn esiampl dda o hyn, ac mae hefyd yn dangos natur dyletswyddau'r festri.

At a Vestry held at the Parish Church of Lampeter and Adjourn'd to the House of William Davies this 19th Day of July 1779.

We the Parishioners then Present have agreed to levy Taxes for the Making and repairing of the Road that leads by Cwmjago at 3½d per Pound.
allow'd to the Widow of John Evan an Augmentation of 6d. per week commencing the 4th of July, 1779.
allow'd Two flannel Shirts for Evan the Ideot.
Likewise allowd. to the Widow of James Rees Philip one Flannel Smock and one Pair of Shoes.
Likewise allow'd to Thomas David William two Shillings in order to go to the sea side for the sake of his bad state of Health.

Present,
W. Williams, Clr.
Oakley Leigh
James Morgan
David Davies
Chelton Leigh

Collodd y cyfarfodydd festri eu pwerau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1834 trosglwyddwyd eu dyletswyddau i gynnal y tlodion i Undebau Deddfau'r Tlodion, ac o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1894 sefydlwyd cynghorau plwyf sifil ar wahân i wneud y gwaith gweinyddu lleol a arferid ei wneud gan y festri.


Darllen pellach

  • John Rowlands, 'Parochial records', yn Welsh family history: a guide to research, golygwyd gan John Rowlands ac eraill. (Association of Family History Societies of Wales, 1993).

Dolenni perthnasol