Cyfeirnod: SD/Ch/B27 a SD/Ch/B28
Dwy gyfrol o ddogfennau yn ymwneud ag esgobaeth Tyddewi yw Collectanea Menevensia. Mae'n grynodeb o hanes yr esgobaeth ac fe'i ceir ymhlith Cofnodion Esgobaethol Tyddewi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Paratowyd y gwaith gan Henry Thomas Payne yn 1820.
Henry Thomas Payne
Clerigwr a hynafiaethydd o Sir Frycheiniog a dreuliodd ei fywyd yn astudio hanes oedd Henry Thomas Payne (1759-1832). Wedi graddio o Goleg Balliol, Rhydychen fe'i hordeiniwyd yn offeiriad yn 1783 a'i drwyddedu i guradiaeth Llanelli, Sir Frycheiniog. Yn 1810 daeth yn ganon Tyddewi ac yn 1829 fe'i hapwyntiwyd yn Archddiacon Caerfyrddin. Bu'n ddylanwad ar waith yr hanesydd Theophilus Jones (1759-1812) gan gyfrannu at ei History of the county of Brecknock, 1805-1809. Bu farw Payne yng Nghrucywel fis Ebrill, 1832.
Collectanea Menevensia
Mae'r gyfrol gyntaf, o ryw 600 tudalen, wedi'i chyflwyno i gantor a chanoniaid yr eglwys gadeiriol trigiannol, yn cychwyn gyda chyflwyniad i hanes y cabidwl. Dilynir hyn gan gatalog o ddogfennau yn ymwneud â hanes yr esgobaeth. Ceir hefyd ddetholion o stadudau, ynghyd ag adysgrifau o ddogfennau a mynegai.
Mae'r ail gyfrol, o 500 tudalen, yn cynnwys rhestr a chrynodeb cofnodion o Lyfrau Actau Cabidwl Tyddewi (1561-1827). Ceir hefyd adysgrifau o ddogfennau yn ymwneud ag ailadeiladu talcen gorllewinol yr eglwys gadeiriol, gan gynnwys codi ystafell y cabidwl yn unol â chynlluniau John Nash (1752-1835).
Darllen pellach
- Owens, B. G. "Biographica et Bibliographica: Archdeacon Henry Thomas Payne (1759-1832)." Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 4 (Haf 1946): 210-214.
Darganfod & Dysgu
- Arddangosfeydd arlein
- Europeana Rise of Literacy
- Illingworth
- David Lloyd George
- Calendr Cymru a'r Byd
- Llawysgrifau
- Archifau
- Deiseb Heddwch Menywod Cymru
- Ystrad Marchell (Cofnodion Ystad Wynnstay)
- Gwrachyddiaeth
- Notitiae Llanelwy
- Llyfr Festri
- Collectanea Menevensia
- Yr Anthem Genedlaethol
- Papurau Syr John Rhŷs: llythyrau a chardiau wrth Whitley Stokes, 1871-1909 (A1/3/5)
- Cofnodion Tribiwnlysoedd (Apêl) y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi
- Dyddiadur Lloyd George
- Llythyron Lloyd George
- Papurau Alun Lewis, Barddoniaeth (MS 1)
- Deunydd print
- Darluniau
- Mapiau
- Ffotograffau
- Dylan Thomas
- Addysg