Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cofnodion Esgobaeth Llanelwy, SA/MISC/1300-1491
Un o dasgau cyntaf William Lloyd fel Esgob Llanelwy oedd danfon cyfarwyddyd at holl beriglorion ei esgobaeth ynglŷn â llunio notitia ar gyfer pob plwyf (SA/MISC/535). Mewn llythyr at ei ganghellor, John Edwards o Lanymynech, 9 Ebrill 1681, sonia'r esgob am synod oedd i'w chynnal yn Llanelwy fis Mehefin. Mae'n gofyn i'w ganghellor anfon neges at glerigwyr yr esgobaeth yn eu hysbysu o'i fwriad, a hefyd i anfon cylchlythyr at bob periglor:
'to desire everyone of them to consider maturely beforehand what things are amiss in the Church, and how every fault may be mended, and what as well may be improved; and everyone to bring what he has to suggest, and withall to give me a notitia of his own parish, I mean a roll of the names of all housekeepers, which may be easily made by transcribing the poor's rate, and adding to it the names of them that take alms, and the names of those few that neither pay nor receive. It will be no great trouble for each of them to make me such a roll.'
(Ceir y llythyr hwn ymhlith cofnodion teulu Lloyd-Baker yn Archifdy Swydd Gaerloyw, Lloegr).
Aethpwyd â'r notitiae i Synod neu Gonfocasiwn a gynhaliwyd fis Gorffennaf 1681. Mae'n rhaid bod cyfarwyddyd tebyg i rai 1681 wedi'u cyhoeddi yn y blynyddoedd oedd yn dilyn yn gofyn am gasglu gwybodaeth debyg ar gyfer Confocasiwn neu Ofwy Esgobol wedi 1681 (Milwyn Griffiths, 'Parochial Notitiae for the Diocese of St Asaph, 1681-7', yn Montgomeryshire Collections, cyf. 59, 1965-6, tt 161-2).
Yng nghyfarwyddiadau 1681 ceir manylion ynglŷn â sut i gofnodi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani: tair colofn, enw'r penteulu, nifer yr eneidiau ymhob teulu, ac oedran aelodau'r teulu oedd o dan 18 oed. Rhoddwyd cyfarwyddiadau hefyd i restru enwau'r holl reciwsantiaid Catholig a'r rhai oedd wedi'u gwahardd o'r cymun ym mhob plwyf, yn ogystal â manylion am arian elusennol. Cafwyd cyfarwyddiadau pellach ynglŷn â gwybodaeth arall oedd i'w chasglu. Ceir peth amrywiaeth yn y dogfennau, ond yn gyffredinol mae'r adroddiadau yn dilyn yr un patrwm.
Ceir adroddiadau o'r mwyafrif llethol o blwyfi'r esgobaeth fel yr oedd ar y pryd (cafodd Deoniaethau Cyfeiliog a Mawddwy eu trosglwyddo i esgobaeth Bangor yn 1859 yn gyfnewid am Ddeoniaethau Dyffryn Clwyd a Chinmeirch). Ceir rhestr o'r plwyfi lle nad oes cofnodion wedi goroesi (neu lle na chawsant eu creu o gwbl) ar ddiwedd y rhestr o blwyfi isod.
Mae'r adroddiadau yn dyddio o 1681 hyd at 1687. Yn gyffredinol nid yw'r dyddiad wedi'i nodi ar yr adroddiadau a gyflawnwyd yn 1681, ac felly fe gymerir yn ganiataol mai dyna'r flwyddyn. Nid yw'r adroddiadau a luniwyd wedi 1681 o angenrhaid yn dilyn yr un patrwm â'r hyn a ofynnwyd amdano ar gyfer y gyfres gyntaf. Ceir datganiad ar rai adroddiadau yn dweud ble y cawsant eu cyflwyno, e.e. Betws Gwerful Goch (cyflwynwyd mewn Confocasiwn yn Llanelwy, 13 Gorffennaf 1681), Garthbeibio (cyflwynwyd ar adeg y Gofwy Esgobol Tairblynyddol, 6 Awst 1685), a Betws-yn-Rhos (cyflwynwyd mewn Confocasiwn yn Llanelwy, 7 Gorffennaf 1686).
Yn 1912 cafodd y Notitiae eu hastudio a gwnaed crynodeb o'r ffigurau: ceir hwn fel atodiad i'r brif gyfres (SA/MISC/1492-1495). Ond mae arolwg pellach o'r adroddiadau wedi dangos nad yw'r holl wybodaeth a geir yn y crynodeb yn gywir, ac felly dylid edrych ar y mynegai i'r delweddau digidol. Rhaid troi at y mynegai hwn hefyd i gadarnhau unrhyw gyfeiriadau at y Notitiae mewn gweithiau cyhoeddedig, e.e., y trawsysgrifiad o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn Mont. Coll., cyf. 59-63, 65-66, 68-70, 73-74, 76-80, a 84.
Roedd y gyfres hon o gofnodion yn rhan o'r adnau cyntaf o gofysgrifau'r Eglwys yng Nghymru i ddod i'r Llyfrgell yn 1944, ac fe'i rhestrwyd yng Nghyfrol II A Schedule of the Church in Wales Records deposited by the Representative Body of the Church in Wales, the Diocese of St Asaph (1954).
Mae'r rhestrau isod yn cynnwys dolenni i'r tudalennau perthnasol yn ôl Deoniaeth/plwyf.
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Llanarmon, Wrecsam a Merchwiel.
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Carno, Penegoes a Llanbryn-mair.
Llandrillo-yn-Edeirnion, [1681?]
Llandrillio-yn-Edeirnion, 1686
Llansanffraid Glyndyfrdwy, [1681?]
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyf Llanycil.
Llansanffraid Glynceiriog, [1681?]
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llanarmon Mynydd Mawr a Sychtyn.
Llanfihangel-yng-Ngwynfa, [1681?]
Llansanffraid-ym-Mechain, 1686
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Pennant a Llandysilio.
Llanfihangel Glyn Myfyr, [1681?]
Llansanffraid Glan Conwy, 1681
Llansanffraid Glan Conwy, 1686
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Abergele, Llanefydd, Eglwys Fach, Llanrwst a Pentre Foelas.
Nid oes Notitiae ar gyfer plwyfi Llanelwy a Nannerch.
Llandrillo-yn-Edeirnion, [1681?]
Llandrillio-yn-Edeirnion, 1686
Llanfihangel Glyn Myfyr, [1681?]
Llanfihangel-yng-Ngwynfa, [1681?]
Llansanffraid Glan Conwy, 1681
Llansanffraid Glan Conwy, 1686
Llansanffraid Glynceiriog, [1681?]
Llansanffraid Glyndyfrdwy, [1681?]
Llansanffraid-ym-Mechain, 1686
Nid oes Notitiae ar gyfer y plwyfi canlynol: Abergele, Carno, Eglwys Fach, Llanarmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llanarmon Mynydd Mawr, Llanbryn-mair, Llandysilio, Llanefydd, Llanelwy, Llanrwst, Llanycil, Merchwiel, Nannerch, Penegoes, Pennant, Pentre Foelas, Sychtyn, Wrecsam.