Symud i'r prif gynnwys

Posteri

Yn ogystal â llythyrau, daethpwyd o hyd i bosteri hefyd ymhlith cynnwys casgliad Cronfa Trychineb Aberfan, yn dangos y cydymdeimlad a roddwyd gan garcharorion Carchar Lewes a bod 65 o goed wedi’u plannu yn ysgol lywodraethol ‘A’ yn Ness-Ziona:


Cymdeithas Gymunedol

Crëwyd taflen i roi gwybodaeth i drigolion Aberfan a Dyffryn Merthyr am bwrpas y Gymdeithas Gymunedol, yn benodol yr hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud i helpu'r gymuned a'r gwahanol gynrychiolwyr oedd yn rhan o'r pwyllgor:


Gwahoddiad i Agor y Ganolfan Gymunedol

Fel rhan o'r llyfryn ar gyfer agor y Ganolfan Gymunedol gan Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II, rhoddwyd gwahoddiadau papur hefyd i’r rhai oedd yno gyda chynllun eistedd:


Gwasanaethau

Cynhaliwyd gwasanaethau yn 1969 ac 1973 i nodi sefydlu Cymdeithas Gymunedol Aberfan a Dyffryn Merthyr ac agor y Ganolfan Gymunedol, yn y drefn honno. Mae'r ddau gopi yn cynnwys areithiau ac emynau i goffáu'r achlysur:


Cerddi

Aberfan, 1966, wedi'i hysgrifennu gan Robert Morgan, mab glöwr, a oedd yn gweithio mewn pwll glo er pan oedd yn 14 oed. Drafftiodd Morgan y gerdd i goffáu'r bywydau a gollwyd yn ystod y Trychineb, yn ogystal â thynnu sylw at y rhai a oedd yn gyfrifol am y difrod a wnaed i'r gymuned.

Cafodd Aberfan, An Elegy for the Children of Aberfan, a ysgrifennwyd gan Bryn Griffiths, a gomisiynwyd i'w ddarllen yn ddiweddarach ar Independent Television News, ei drafftio 16 o weithiau, ac mae'n adleisio negeseuon tebyg i Aberfan, 1966: 


Deiseb i Gael Gwared ar Domenni

Fel rhan o bapurau Evan Wyn Williams, darganfuwyd copi o ddeiseb yn galw am wario cyllid y llywodraeth ar ddiogelwch tomenni yn Aberfan. Dyma un o nifer o ddeisebau gan gymunedau lleol a ddarganfuwyd yn dilyn y Trychineb, sy'n dangos teimlad cryf o'r ardaloedd cyfagos i alw am gyfrifoldeb y llywodraeth:


Darlith

Tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, traddododd Richard A. Couto ddarlith ym Mhrifysgol Vanderbilt, Tennessee, gan gofio hanes y Trychineb gan gynnwys yr hyn a achosodd drasiedi o'r fath, yr effaith ar y gymuned a'r tribiwnlys ei hun, gan ganolbwyntio'r naratif ar sut roedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymwybodol o'r risgiau ymhell cyn y Trychineb: