Symud i'r prif gynnwys

Dogfen Ymddiriedolaeth Cronfa Trychineb Aberfan

Isod mae un o ddrafftiau cyntaf dogfen yr ymddiriedolaeth a grëwyd i amlinellu pwrpas, amcanion a rheolaeth Pwyllgor Rheoli Cronfa’r Trychineb. Nid yw'r drafft cychwynnol hwn yn cynnwys unrhyw lofnodion ac mae arno sawl anodiad. Mae fersiynau eraill wedi'u cynnwys yn y casgliad gan gynnwys copi wedi'i lofnodi:


Cyfansoddiad Cymdeithas Gymunedol a Gardd Goffa Aberfan

Fel dogfen ymddiriedolaeth Cronfa Trychineb Aberfan, isod mae drafftiau cynnar o gyfansoddiadau sy'n ymwneud â Chymdeithas Gymunedol Aberfan a phwyllgor Gardd Goffa Aberfan:


Holiaduron

Anfonwyd llythyr at drigolion Aberfan flwyddyn ar ôl y Trychineb i helpu gyda threfniadau cynllunio trefol, yn benodol ar gysyniadau cynnar y Ganolfan Gymunedol, yn gofyn am ymatebion i holiadur oedd wedi’i atodi. Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar deulu, tai, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden:

Crëwyd holiadur arall gan Dr. Colin Murray Parkes a oedd yn canolbwyntio mwy ar iechyd meddwl y trigolion yn dilyn y Trychineb. Roedd yn gofyn sawl cwestiwn ar natur y galar a deimlai unigolion gan ofyn hefyd am gymhariaethau ynghylch sut roedd pobl yn teimlo am rai agweddau cyn ac ar ôl y Trychineb. Mae'n ansicr a anfonwyd hyn at drigolion yn uniongyrchol neu a gafodd ei greu fel cysyniad: 


Tŷ Toronto

Mae'r dogfennau hyn yn ymwneud â gwaith Tŷ Toronto, prosiect a sefydlwyd yn Aberfan ym 1967 o roddion a dderbyniwyd gan y gymuned Gymreig yn Toronto i helpu'r rhai yn Aberfan ar ôl y Trychineb. Mae'n dangos Tŷ Toronto yn ei gamau cynnar, gan amlygu nod eu gwaith yn gyffredinol wrth ystyried sefydlu'r Gymdeithas Gymunedol:


Cronfa 'Lara'

Llythyrau o gefnogaeth i Gronfa 'Lara', a sefydlwyd yn 1969 ar ôl i danau llwyni ddinistrio adeilad Ysgol Lara Lake yn Awstralia, yn dangos cyfraniad ariannol gan gymuned Aberfan i ymdrechion ailadeiladu'r ysgol. Roedd myfyrwyr Lara Lake wedi anfon llythyrau o gefnogaeth a chymorth ariannol yn flaenorol yn dilyn y Trychineb, gan ddechrau beth fyddai'n gyswllt hanesyddol rhwng Aberfan a Lara (Gellir gweld hyn yn ddiweddarach yn rhifyn Headway 'Keeping the 'Lara' Link' a argraffwyd ym mis Mai, 1970, a geir yn yr adran Deunydd Print):


Apêl Sisili

Cafwyd hyd i lythyr o ddiolch hefyd mewn ymateb i'r rhodd o ddillad ac arian i 'Save the Children Fund' gan gymuned Aberfan (o'r enw 'The Sicilian Appeal' yn y llythyr ei hun), a sefydlwyd yn dilyn daeargryn Belice yn Sisili yn 1968 ar y 14 Ionawr a arweiniodd at 400 o farwolaethau a digartrefedd eang oherwydd maint y dinistr a achoswyd: