Pecyn cymorth addysg a dysgu
Cefndir
Ar fore dydd Gwener, 21 Hydref 1966, tarwyd pentref glofaol bychan yn ne Cymru gan drychineb. Gorchuddiwyd y cwm o amgylch Aberfan gan domenni uchel o wastraff o bwll glo Merthyr Vale gerllaw, ac, ychydig wedi 9 o’r gloch y bore, dechreuodd ‘Tip 7’ symud.
Ymhen munudau rhuthrodd tirlithriad anferth o garreg a llwch glo i lawr y mynydd gan droi’n hylif o ganlyniad i’r dŵr oddi tano, a dinistrio popeth yn ei lwybr. Chwalwyd dau fwthyn fferm a nifer o dai gan 1,000 tunnell o rwbel glo cyn rhwygo drwy ochr Ysgol Gynradd Pantglas.
Lladdwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant, gan ennyn ymateb emosiynol dwfn dros Gymru gyfan a thrwy’r gymuned ryngwladol. Rhuthrodd miloedd i helpu gyda’r gwaith achub, wrth i gydymdeimlad a chymorth ariannol gyrraedd o bell ac agos.
Cwestiynau posib i'w trafod
- Beth achosodd y drychineb?
- Beth oedd effaith y trychineb ar y gymuned?
- Sut fyddai gwahanol bobl oedd yn rhan o’r trychineb yn teimlo?
Syniadau am weithgareddau
- Cyflwyniad prezi i ddarparu gwybodaeth gefndirol.
- Defnyddiwch lun/ffilm llonydd o'r trychineb fel man cychwyn ar gyfer ymchwiliad pellach.
- Dehongli digwyddiadau'r trychineb o wahanol safbwyntiau.
- Ysgrifennu erthygl/adroddiad papur newydd neu ffilmio bwletin newyddion teledu.
- Creu darn o farddoniaeth/gwaith celf sy'n cynrychioli arwyddocâd Aberfan.
- Darganfod mwy am leoliad a maint y tomenni glo, llwybr y tirlithriad lawr mynydd Merthyr
a'r adeiladau a ddinistriwyd ganddo.
Profiadau dysgu
(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
Dyniaethau
- Datblygu llwybrau ymholi.
- Effaith ddynol ar y byd.
- Achos ac effaith
- Effaith gwneud penderfyniadau
- Nodweddion daearyddol