Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Cafodd Henry ei eni i deulu wedi'i gaethiwo yn 1815 ar blanhigfa Hermitage yn Louisa County, tua 50 milltir o Richmond, Virginia.  

Yn 1849, roedd ei wraig Nancy yn disgwyl eu pedwerydd plentyn pan gafodd hi a’r plant eu gwerthu i blanhigfa yng Ngogledd Carolina.  Penderfynodd Henry ddianc, a gyda help dau ddyn arall, mi wnaethon nhw adeiladu bocs bach yn mesur 91cm x 81cm x 61cm, a’i leinio gyda brethyn. 

Ar Fawrth 23, 1849 gwasgodd Henry ei hun i mewn i’r bocs gydag ychydig o fisgedi a photel o ddŵr, ac arf i wneud tyllau yn y bocs i’w helpu i anadlu, a chafodd ei bostio i Philadelphia.  Cafodd y bocs ei gludo ar wagen, rheilffordd, bad ager a fferi am 27 o oriau, weithiau ben i waered, efo gwaed Henry yn rhuthro i’w ben.  Ar ôl cyrraedd Philadelphia, neidiodd allan o’r bocs a chanu emyn i ryddid. 

Yn Ionawr 1855 y daeth i Gymru am y tro cyntaf, lle bu’n perfformio ledled y Cymoedd.  Yn ôl The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette, 12fed Ionawr, ‘Mr Henry Box Brown, we believe, is a gentleman of colour, and an escaped slave, (who will) exhibit a popular Panorama of African and American Slavery, consisting of views in the interior of Africa, with illustrations of the... customs of the natives. Not to particularize further, we think it will be well worth going to.' 

Peter Stevenson c2024 

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pam wnaeth Henry Box Brown bostio ei hun mewn bocs? 
  • Sut beth oedd bywyd i bobl Ddu yn America yn yr 19eg ganrif? 
  • Sut wnaeth Henry rannu ei stori? 
  • Sut ydyn ni’n gwybod bod Henry wedi bod i Gymru?  

Syniadau am weithgareddau

  • Creu proffil o Henry Box Brown. 
  • Ymchwilio i fasnach gaethweision yr Iwerydd. 
  • Darllen yr erthyglau papur newydd.
  • Gwylio stori Phil Okwedy. 
  • Creu cranci bach. 
  • Adrodd stori Henry Box Brown i fynd gyda’r fideo o cranci Peter Stevenson. 

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Cynrychioli hunaniaethau personol cymdeithasol a diwylliannol
  • Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
  • Meistroli technegau creadigol
  • Archwilio diben ac ystyr
  • Cyfleu teimladau ac emosiynau
  • Datblygu a mireinio dyluniadau
Iechyd a Lles
  • Empathi
  • Deall cydberthnasau
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol
Dyniaethau
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Hunaniaeth

Henry Box Brown

Dianc rhag caethwasiaeth a chyflwyno Crancis i Gymru

gan Peter Stevenson, c.2024

Pan fydda’ i’n deud stori, mi fydda’ i’n aml iawn yn defnyddio cranci, sef bocs pren maint siwtces mawr, sy’n agored ar y ffrynt fel ffrâm llun, ac yn cynnwys sgrôl hir efo darluniau arno sy’n cael ei droi gyda handlen ar y top. Mae’n debyg i lyfr efo lluniau symudol, neu fwrdd stori wedi’i animeiddio, neu ffilm heb drydan. 

Ond, mae stori un person oedd yn gwneud crancis yn fwy anhygoel nag unrhyw beth y gallai unrhyw storïwr neu ddarluniwr ei greu o’i ddychymyg. 

Ar Ebrill 11, 1850, yn Boston yn yr Unol Daleithiau, dangosodd Henry Box Brown banorama symudol o’r enw ‘Mirror of Slavery’ i gynulleidfaoedd mawr, a chafodd adolygiadau brwdfrydig yn y papurau newydd. Roedd yn cynnwys 49 o olygfeydd wedi’u paentio ar sgrôl gynfas gan y paentiwr arwyddion addurnol a’r cefnogwr diddymu caethwasiaeth Josiah Wolcott. Yn ôl The Boston Daily Evening Traveler hwn oedd ‘one of the finest panoramas now on exhibition.’ 

Creu Cranci

Cranci

Bywyd cynnar a phlentyndod

Cafodd Henry ei eni i deulu wedi'i gaethiwo yn 1815 ar blanhigfa Hermitage yn Louisa County, tua 50 milltir o Richmond, Virginia. Roedd yn hoff o wneud triciau, a gwyddai am ddulliau consurio a lledrith Affricanaidd, fel y rhai roedd ei gyndeidiau Gullah Geechee wedi’u defnyddio i ddianc o’r Outer Banks a hedfan gartref i Affrica. Roedd yn gwybod triciau dewiniaid y llwyfan hefyd.  Gallai godi hoelen, cau ei law amdani, dweud ychydig eiriau yn yr iaith Creol, a phan agorai ei law, roedd yr hoelen wedi troi yn fesen, y dywedai y byddai’n tyfu’n goeden hoelion. 

Yn 1849, roedd ei wraig Nancy yn disgwyl eu pedwerydd plentyn pan gafodd hi a’r plant eu gwerthu i blanhigfa yng Ngogledd Carolina, er bod Henry wedi bod yn talu eu caethiwydd, Mr Cottrell, gydag arian a godwyd o werthu tybaco. Penderfynodd Henry ddianc, a gyda help Samuel A Smith a James C A ‘Boxer’ Smith, mi wnaethon nhw adeiladu bocs bach yn mesur 91cm x 81cm x 61cm, a’i leinio gyda brethyn. 

Llên Gwerin a Lledrith Gorllewin Affrica

Yn 1940, cynhaliodd uned Savannah y Prosiect Ysgrifenwyr Ffederal gyfweliadau gyda 134 o Americanwyr Affricanaidd o arfordir Georgia a Carolina am eu bywydau, a’u cyhoeddi fel ‘Drums and Shadows’.  Doedd y bobl ddim yn gwahaniaethu rhwng y byd lledrithiol â’r byd daearol. Roedd trawsfudo mor real â cherdded. Honai rhai eu bod wedi gweld pobl yn diflannu o flaen eu llygaid. Roedd eraill wedi gweld pobl yn hedfan. Roedd sôn bod grŵp o fewn un blanhigfa oedd yn neidio i’r awyr gyda bloedd ac yn cael eu chwythu i ffwrdd fel llond dwrn o ddail dros y caeau a’r ffensys tu hwnt i’r gorwel. Dywedodd Martha Page, a chafodd ei chaethiwo yn Yamacraw ger Savannah fod ei thad-cu hi’n gwybod yr ‘iaith od’ yr oedd yr Affricanwyr yn ei siarad.  Dysgodd mam-gu’r Tywysog Sneed y geiriau hyn iddo: 

'Kum buba yali kum buba tambe, Kum kunka yali kum kunka tambe.' 

Sy’n debyg i ddihareb Luba sy’n cyfieithu fel: 

'Mae’n hoffi triciau, byddaf i’n ennill drwy chwarae triciau hefyd, mae’n gofyn cwestiynau clyfar, byddaf i’n ennill drwy ofyn rhai mwy clyfar’ 

Hedfanodd yr hen driciwr Henry 'Box' Brown i ryddid hefyd, ac mae ei stori’n fyw o hyd. 

Dianc

Ar Fawrth 23, 1849, tywalltodd Henry asid sylffwrig dros ei law, gan ei llosgi at yr asgwrn, er mwyn cael diwrnod i ffwrdd o’r gwaith.  Gwasgodd ei hun i mewn i’r bocs gydag ychydig o fisgedi a photel o ddŵr, ac arf i wneud tyllau yn y bocs i’w helpu i anadlu, a chafodd ei bostio gan yr Adams Express Company at y masnachwr, Passmore Williams, oedd yn Grynwr ac yn aelod o’r Philadelphia Vigilance Committee.  Cafodd y bocs ei gludo ar wagen, rheilffordd, bad ager a fferi am 27 o oriau, weithiau ben i waered, efo gwaed Henry yn rhuthro i’w ben.  Ar ôl cyrraedd Philadelphia, neidiodd allan o’r bocs a chanu emyn i ryddid. 

Cafodd Henry weddnewidiad, a chyhoeddodd ei hunangofiant ‘Narrative of the Life of Henry 'Box' Brown’ i roi cyhoeddusrwydd i’r pethau erchyll a ddigwyddodd i’w bobl. Ysgrifennodd: 'I entered the world a slave. ... Yes, they robbed me of myself before I could know the nature of their wicked arts.' 

Gyda’r enillion o’i lyfr, adeiladodd ei banorama symudol, a theithio gydag ef o amgylch arfordir y dwyrain yn ystod Gwanwyn a Haf 1850. Ar ôl i’r Bil Caethweision gael ei basio y flwyddyn honno, ymosodwyd arno yn Providence, a gwyddai, pe bai’n cael ei ddal, y byddai’n cael ei anfon yn ôl i Virginia, a thybir mai dyna’r rheswm pam na allai fynd i chwilio am ei deulu cyntaf.  Felly ar 7 Hydref, mi ffodd eto, y tro yma i Loegr ar y llong bost Constantine, gyda’i banorama symudol. 

Teithio i Loegr 

Cyrhaeddodd Henry Lerpwl yn Lloegr yn Nhachwedd 1850 heb geiniog i’w enw, ond gyda’r papurau newydd yn canu ei glodydd am ei fod bellach yn enwog. Setlodd yn Cheetham Hill, Manceinion, lle cafodd ail argraffiad o’i lyfr ei gyhoeddi gan Thomas G Lee, Gweinidog Capel Newydd Windsor yn Salford. Mae copi o’r argraffiad prin yma yn Llyfrgell John Rylands ym Manceinion. 

Dechreuodd Henry, a oedd yn hoff o ddangos ei ddoniau, deithio gyda’i banorama symudol o amgylch Gogledd Lloegr. Yn Bradford, ym mis Mai 1851, cafodd ei bacio mewn i focs pren fel yr un a ddefnyddiodd i ddianc ynddo, ac mewn hanner awr roedd yn cael i barêdio drwy strydoedd Leeds, ac yn cael ei osod ar lwyfan y Theatr Gerdd yn Albion Street. Yno, llwyddodd i ddianc eto, cyn dangos ‘Mirror of Slavery’ i gynulleidfa oedd heb weld dim byd tebyg o’r blaen. 

Perfformio yng Nghymru 

Yn Ionawr 1855 daeth i Gymru am y tro cyntaf, lle bu’n perfformio ledled y Cymoedd. Yn ôl The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette, 12 Ionawr, ‘Mr Henry Box Brown, we believe, is a gentleman of colour, and an escaped slave, (who will) exhibit a popular Panorama of African and American Slavery, consisting of views in the interior of Africa, with illustrations of the... customs of the natives. Not to particularize further, we think it will be well worth going to.' 

Ar 19 Ionawr, adroddodd yr un papur newydd, 'The people of this town, for the last few evenings, have been amused with the stories of this gentleman, and have been no less entertained by the exhibition of his panorama. The entertainment took place in Bethany Chapel, Church street, next door to the Post-office, Mr. Box Brown has two more evenings to remain.' 

Dan y pennawd 'Blaenavon Mesmerism’, adroddwyd 'Mr. H. Box Brown is still attracting crowded houses to his entertainments at the Town Hall.' 

Ffynhonnell: Papurau Newydd Cymru (llyfrgell.cymru)

Bywyd Hwyrach 

Yn nes ymlaen yn 1855 priododd â Jane Brown, merch cloddiwr tun o Gernyw, er ei fod, yn ôl pob tebyg, dal yn briod â Nancy. Erbyn 1857 roedd yn actio mewn tair drama yn y London Theatre, gan gynnwys ‘The Fugitive Free’, ‘The Nubian Captive’ neu ‘Royal Slave’, a ‘Pocahontas’ neu ‘The English Tsar and the Indian Princess’. 

Erbyn 1871 roedd y teulu’n byw yn Cheetham Hill, Manceinion, ac mae’r Cyfrifiad yn rhestru ei broffesiwn fel darlithydd cyhoeddus yn 87 Moreton Street, lle’r oedd yn byw gyda Jane, a’u tri phlentyn, Agnes, Edward, Annie, a gwas/morwyn. 

Ar ôl 25 mlynedd o ail-berfformio ei ddihangfa o gaethwasiaeth, croesodd Henry a’i deulu Fôr yr Iwerydd eto i dreulio ei flynyddoedd olaf yn Toronto, lle’r oedd yn disgrifio ei hun fel ‘Darlithydd’, ‘Teithiwr’ ac ‘Athro Swyngyfaredd’. Bu farw ar Fehefin 15, 1987 ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Necropolis yn Toronto. 

Myfyrdod  

Treuliodd Henry ei fywyd anghyffredin yn siarad dros y rhai oedd wedi dianc rhag caethwasiaeth, a oedd yn byw mewn cuddfannau amhosib eu cyrraedd fel y Great Dismal Swamp yng Ngogledd Carolina, lle roeddent yn llochesu mewn ogofau, tyllau dan y ddaear, a thai ar stiltiau. Defnyddiodd y ddawn o adrodd storïau fel llyfrgell gudd o ryddid, gobaith a dihangfa. Ni chafodd y rhan fwyaf o bobl y gefnogaeth a gafodd Henry, na chwaith ei sgiliau artistig ac entrepreneuraidd anhygoel, ond roedd ei angen ef arnyn nhw i adrodd eu straeon cudd i’r byd. 

Cydnabyddiaethau

Mae'r erthygl hon wedi'i haddasu gyda chaniatâd The History Press y gellir ei darllen yma https://www.thehistorypress.co.uk/articles/the-art-of-visual-storytelling/

Mae llawer o'r wybodaeth am fywyd Harri yng Nghymru i'w gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, papurau newydd Cymru ar-lein https://newspapers.library.wales/

Mae ffilmiau o chwedlau gwerin Cymreig yn cael eu hadrodd gyda chrancod ar wefan Peter Stevenson https://www.peterstevensonarts.co.uk/crankies

Mae gwefan cranci Factory Sue Truman yn cynnwys mwy o wybodaeth am Henry a'i crancis https://thecrankiefactory.com/115034636.html

Sianel cranci Katherine Fahey https://www.youtube.com/user/2hawks2fishes

Crancis Bronia Evers https://www.broniaevers.com/what-is-a crankietheatre

Martha J. Cutter, The Many Resurrections of Henry Box Brown (University of Pennsylvania Press, 2022)

Mae'r cyfarwyddiadau ar sut i wneud cranci bach wedi'u cymryd gyda chaniatâd o 'Straeon Gwerin Cymru i'r Hen a'r Ifanc / Illustrated Welsh Folk Tales for Young and Old' a gyhoeddwyd gan The History Press yn 2023 a 2024

Video o granci Henry c Peter Stevenson 2024

Diolch i The History Press


Astudiaeth achos

 

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru i ddysgu mwy am adrodd straeon yn ystod eu gweithdai haf i deuluoedd. Daeth tua 50 o unigolion o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru ar fws o Fangor i’r Llyfrgell. Roedd yr ymweliad yn cynnwys:

  • Gweithdai gyda’r storïwyr Phil Okwedy a Peter Stevenson, a oedd yn adrodd hanes Henry Box Brown.

  • Roedd Phil a Peter yn adrodd straeon gan ddefnyddio ‘crankies’. Mae ‘crankie’ yn flwch pren mawr agored fel ffrâm llun sy’n cynnwys sgrôl hir sy’n troi gyda handlen ar ei ben. Mae’n debyg mae Henry Box Brown oedd y cyntaf i ddefnyddio’r ffurff yma o adrodd straeon yng Nghymru. 

  • Cyfle i weld adroddiadau papur newydd sy’n cofnodi ymweliadau Henry Box Brown i Gymru.

  • Cyfle i wneud crankies bychain eu hunain gyda Peter a Phil mewn gweithdy yn dilyn y sesiwn adrodd stori.