Symud i'r prif gynnwys

Cefndir

Wyt ti wedi clywed son am y cawr Bendigeidfran a’i chwaer Branwen? Glywes di stori am Gwydion y dewin a Blodeuwedd, y ferch gafodd ei chreu o flodau? Mae’r chwedlau hyn yn rhan o straeon y Mabinogi, ac mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf o’r Mabinogi i’w weld yn Llyfr Gwyn Rhydderch sy’n cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Tua canol y 14eg ganrif y cafodd y Llyfr Gwyn ei gopio. Mwy na thebyg mai ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Barcrhydderch, plwyf Llangeitho, Ceredigion y cafodd ei greu.

Mae’n debyg bod nifer o bobl gwahanol wedi cyfrannu at gopio’r llyfr, a bod y gwaith wedi cael ei wneud gan fynachod o Abaty Ystrad Fflur sydd ddim yn bell o Barcrhydderch.

Mae darnau o straeon y Mabinogi a’r chwedlau sydd yn Llyfr Gwyn Rhydderch ganrifoedd os nad mwy o flynyddoedd yn hŷn na’r llyfr ei hun.

Cyn eu bod yn cael eu hysgrifennu roedd y straeon yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall drwy eu hadrodd. Byddai pobl yn clywed y stori, yn ei dysgu, a’i hadrodd eto i rywun arall, ac fel hyn y byddai’r stori’n aros yn fyw.

Adrodd straeon oedd un o’r ffyrdd roedd Cymry’n arfer cymdeithasu, a byddai pobl gyffredin yn dod at ei gilydd gyda’r nos i adrodd a chlywed straeon. Roedd y bobl gyfoethog hefyd yn hoffi clywed straeon ac yn talu pobl i’w hadrodd. Y Cyfarwydd oedd y gair oedd yn cael ei ddefnyddio am adroddwr y stori, ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw i ddisgrifio person sy’n medru adrodd straeon yn dda.

Testun o lyfryn: Treasures at The National Library of Wales: Manuscripts

Cwestiynau posib

  • Ydych chi wedi clywed am chwedlau’r Mabinogi?
  • Beth ydy chwedl?
  • Sut mae stori ar lafar yn wahanol i wylio ffilm/rhaglen deledu?
  • Oedd elfennau o’r stori yn cynnwys hud a lledrith?

Gweithgareddau posib

  • Ymchwiliwch rôl y Cyfarwydd.
  • Darllenwch un o straeon y Mabinogi.
  • Ymarfer y grefft o gofio ac ail-ddweud stori.
  • Creu comic/fideo am un o'r straeon.

Profiadau dysgu

(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iaith a pherthyn
  • Gwrando a deall
  • Archwilio llenyddiaeth
  • Deall llenyddiaeth
  • Ymateb i lenyddiaeth
Dyniaethau
  • Deall y gorffennol
  • Newidadau dros amser
  • Cyfraniad at gymdeithas
Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Datblygu technegau creadigol
  • Archwilio diben ac ystyr

Darluniau gan Margaret Jones