Pecyn Gwaith i Athrawon
Cefndir
Yn ystod y 19eg ganrif, roedd ysgolion, plwyfi a chlybiau lleol yn creu rheolau eu hunain i chwarae pêl-droed; golygodd hyn fod chwarae yn erbyn timau eraill yn gallu bod yn benbleth! Cafwyd ymgais i gysoni rheolau’r gamp yn ystod y cyfnod hwn. Cam pwysig o wneud hynny yng Nghymru oedd ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC) yng Ngwesty Wynnstay Arms, Wrecsam yn 1876. Wedi’r cyfarfod hwnnw, cyhoeddwyd llythyr mewn papur newydd i recriwtio chwaraewyr gwrywaidd i gynrychioli Cymru mewn gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban. Fe aeth tîm o ddeg i Glasgow, ond yn anffodus, collodd Cymru 0-4.
Ers y gêm gyntaf yn 1876 mae timau a chefnogwyr Cymru wedi profi siom a gorfoledd ar fwy nag un achlysur. Cystadlodd Cymru yn rownd derfynol Cwpan y Byd am yr unig dro (tan 2022) yn 1958 lle gollon nhw i Frasil yn rownd y chwarteri. Mae nifer o achosion lle ddaeth y tîm cenedlaethol yn agos iawn i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd neu’r Ewros, er enghraifft pan gollon nhw yn erbyn Yr Alban yn 1977 a Rwsia yn 2004. Yn ddiweddar, cafwyd twrnamaint hynod lwyddiannus yn Ewro 2016 lle aethon nhw'r holl ffordd i’r rownd gyn-derfynol.
Mae’n bwysig cofio bod merched hefyd yn chwarae’r gamp. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ffatrïoedd creu arfau rhyfel yn aml gyda thimau merched eu hunain ac roedd torfeydd mawr yn dod i wylio’r gemau. Er bod merched yn mwynhau chwarae, gwaharddodd y CPDC merched rhag chwarae yn 1922. Yn 1970 fe ganiataodd y Gymdeithas i ferched gystadlu unwaith eto. Yn 1993 ffurfiwyd tîm cyntaf rhyngwladol merched Cymru. Mae poblogrwydd gêm y merched wedi tyfu’n aruthrol gyda bron i 9,500 o ferched bellach wedi cofrestru gyda chlybiau ar draws Cymru, ac yn chwarae’n gyson.
Er mor boblogaidd yw’r gêm yng Nghymru, mae cyfnodau wedi bod pan oedd y stadiwm yn hanner gwag. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cynnydd yn y gefnogaeth i bêl-droed Cymru, a chyfeirir at gefnogwyr Cymru bellach fel Y Wal Goch. Mae’r rhan fwyaf o gemau rhyngwladol y dynion gartref yn cael eu chwarae o flaen torfeydd llawn, ac ym mis Hydref 2022 mynychodd torf o dros 15,000 i wylio tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd.
Mae’r diwylliant sydd wedi datblygu ymysg y cefnogwyr yn ymestyn i fyd ffasiwn, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Mae’r Wal Goch hefyd yn symbol o hunaniaeth, gyda caneuon protest fel ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan i’w clywed yn ystod y gemau.
Postiwyd: 02-11-2022
Cwestiynau posib i'w trafod
- Pam oedd papurau newydd yn ffynhonnell bwysig i dderbyn newyddion yn 1876?
- Sut mae’r profiad o wylio pêl-droed yn cymharu â heddiw?
- Ym mha ffordd mae gwisg ac offer pêl-droed wedi newid?
- Pa liwiau a symbolau sy’n gysylltiedig â thîm pêl-droed Cymru?
- Ydy’r tîmau pêl-droed cenedlaethol yn rhan o hunaniaeth Cymru fodern?
Syniadau am weithgareddau
- Cymharu gemau pêl-droed o wahanol gyfnodau.
- Ysgrifennu erthygl papur newydd am gêm bêl-droed.
- Cynllunio gwisg, het neu fathodyn pêl-droed Cymru.
- Creu sylwebaeth i gyd-fynd ag un o’r gemau.
- Ysgrifennu erthygl am bêl-droediwr.
- Creu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan dîm Cymru neu un o’r chwaraewyr.
Profiadau dysgu
(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
Dyniaethau
- Deall y gorffennol
- Dehongli ffynonellau a gwybodaeth
- Pwysigrwydd cymdeithsol a diwylliannol
- Hunaniaeth
- Tebygrwydd a gwahaniaethu cymdeithasol
- Newidadau dros amser
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Iaith a pherthyn
- Gwrando a deall
- Darllen geiriau a thestun
- Deall ffurf
- Ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
- Cyfleu syniadau
- Archwilio diben ac ystyr
- Datblygu a mireinio dyluniadau