Pecyn cymorth addysg a dysgu
Cefndir
Mae'r adnodd hwn yn cymharu Dawnsio Gwerin Cymreig â Dawnsio Gwerin Portiwgaleg (Rancho). Gellir addasu templed y Powerpoint i gymharu unrhyw ddawns. Gall ymchwilio gwahanol ddawnsiau gynnwys dysgu am offerynnau a gwisgoedd traddodiadol. Ar ôl archwilio’r ddwy ddawns, gellid cynnal trafodaethau cyffredinol am y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng Cymru a'r wlad/diwylliant arall.
Cwestiynau posib i'w trafod
I gynorthwyo’r broses o ddadansoddi’r ddawns, canolbwyntiwch ar yr agweddau isod yn unigol cyn ystyried y ddawns yn ei gyfanrwydd.
- Gwisgoedd – lliwiau, gwisgoedd rhywiau gwahanol, hetiau ac ati
- Cerddoriaeth – offerynnau, canu
- Dawns – camau, siâp y corff, patrymau
Gweithgareddau a phrofiadau
- Cymharu - Mae'r cyflwyniad Powerpoint sy’n rhan o'r pecyn dysgu hwn yn enghraifft o sut i drafod a chymharu dwy ddawns werin wahanol. Gellir addasu'r cyflwyniad i unrhyw ddawns o'ch dewis.
- Perfformio’r ddawns. Dilynwch gyfarwyddiadau Dawnsio Gwerin (gov.wales) i ddysgu Dawnsio Gwerin Cymreig
Cysyniadau allweddol
(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)
Y Celfyddydau mynegiannol
- Cynrychioli hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol
- Perfformio
- Archwilio pwrpas ac ystyr
Y Dyniaethau
- Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
- Hunaniaeth
- Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
Iechyd a Lles
- Symudiadau