Pecyn cymorth addysg a dysgu
Cefndir
Cynorthwyodd cynlluniau Lewis Morris a William Morris i forwyr hwylio llongau yn ddiogel ar hyd arfordir Cymru. Nid gwaith hawdd oedd creu siartiau morwrol yn y 18fed ganrif, roedd mapio’r arfordir, a wnaed bron yn llwyr heb ddim cefnogaeth swyddogol, yn arloesol. Ceir gwybodaeth am gerrynt, angorfeydd, banciau sychu, creigiau a pheryglon mordwyo eraill a chymhorthion ar y mapiau hyn. Gellir defnyddio’r mapiau hyn i gefnogi addysgu rhifedd yn enwedig elfennau safle ac ongl.
Cwestiynau posib i'w trafod
- Pa fath o wybodaeth sydd ar siartiau morwrol?
- Pam oedd siartiau morwrol mor bwysig yn yr 18fed ganrif?
- Sut fyddai defnyddio graddfa ac dealltwriaeth o onglau yn help i ddarllen y siart?
Syniadau am weithgareddau
- Edrych ar siartiau morol o'r 18fed ganrif.
- Mesur uchderau gwahanol mewn 'fathoms'.
- Disgrifiwch ble mae'r pwyntiau angori ar y siartiau gan ddefnyddio onglau a graddfa.
Profiadau dysgu
(yn deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)
Dyniaethau
- Deall y gorffennol
- Cyfraniad at gymdeithas
- Effaith ddynol ar y byd
- Nodweddion daearyddol
Mathemateg a Rhifedd
- Mesur
- Onglau