Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Cydweithiodd prosiect Cymunedau Cymru â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Ifanc (EYST), pobl ifanc o Gaerdydd (Lioness Community Projects) a Natalie Jones i greu podlediad am hunaniaeth, iaith a diwylliant. Bwriad y prosiect oedd amlygu lleisiau sy'n hanesyddol wedi cael eu hanwybyddu neu wedi'u ymylu yn trafod y themau hyd gan ddefnyddio eitemau o gasgliad y Llyfrgell i sbarduno trafodaeth. Roedd pwyslais hefyd ar ddatblygu sgiliau creu podlediad trwy weithio gydag offer arbennig.

Dyfyniadau o'r podlediad:

Natalie Jones: "Yn 1985, pan symudon ni i Bwllheli, doedd dim un arall—credaf fod un ddynes o Trinidad, dynes Ddu a oedd yn briod â phlismon gwyn. Dyna’r unig berson Du arall dwi’n ei gofio, ac yna ei phlant wrth gwrs. Ond roedden nhw i gyd yn iau na fi, felly roedd pwynt lle fi oedd yr unig blentyn Du yn yr ysgol. A fi oedd yr unig blentyn Du yn fy nosbarth erioed. Wnes i erioed ddod ar draws athro Du arall, aelod o staff Du, na chael dosbarth gyda phlentyn Du arall erioed. Neu yn y coleg, pan ddechreuais ar ôl ysgol, roedd yn rhyfedd ac yn anodd dod i arfer ag ef. Yn enwedig yn eich arddegau, rydych chi eisiau ffitio i mewn; dydych chi ddim eisiau sefyll allan. Felly, er gwaetha’r ffaith mod i’n gweld fy hun yn Gymro iawn erbyn hyn, doedd hi ddim yn hawdd. Ie, fe wnaethon ni brofi hiliaeth yn bendant - hiliaeth anwybodus, ar ffurf anwybodaeth hefyd, yn hytrach na - nid oedd bob amser yn hiliaeth amlwg. Weithiau roedd yn anwybodaeth a diffyg dealltwriaeth. Ond mae'n dal i gael effaith arnoch chi; mae’n dal i wneud ichi deimlo nad ydych yn perthyn, fel eich bod yn hyll neu’n ddieithr, neu nad ydych yn ffitio i mewn."

--------------------------------------

Person ifanc: "I mi, rwy’n cytuno â phopeth yr ydych yn ei ddweud am iaith yn cael ei defnyddio fel dynodwr. Fel Cymro – dwi’n ystyried fy hun yn Gymro, er nad oeddwn wedi tyfu i fyny yma a ddim yn siarad Cymraeg. Mae yna dipyn o Gymry sy'n siarad Saesneg yn unig ond sy'n dal i deimlo cysylltiad â'r iaith trwy ganeuon, chwedlau, ac enwau. Efallai nad yw pobl o reidrwydd yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond byddant yn ei adnabod mewn cân neu’n ei chanu. Byddant hefyd yn ei adnabod mewn enwau. Felly, rwy’n meddwl bod iaith yn hanfodol i unrhyw ddiwylliant oherwydd mae ganddi hanes mor gyfoethog â’r bobl hynny."

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Ydych chi'n uniaethu fel Cymro/Cymraes?
  • Ydy iaith yn bwysig i hunaniaeth a diwylliant?
  • Ydy hunaniaeth Gymreig yn newid o un ardal i'r llall?
  • Beth fyddech chi'n ei ddweud sy'n bwysig i ddiwylliant Cymru?
  • Sut olwg sydd ar y dyfodol mewn Cymru amrywiol?

Syniadau am weithgareddau

  • Ymchwiliwch iaith, diwylliant neu hunaniaeth yng Nghymru
  • Ymchwiliwch hanes eich teulu
  • Recordio podlediad

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iaith a pherthyn
  • Gwrando a deall
  • Deall safbwyntiau
Y Dyniaethau
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Hunaniaeth
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Deall hawliau dynol
  • Datblygu llwybrau ymholi

Iaith

Diwylliant

Hunaniaeth