Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Roedd Paul Robeson yn ysgolhaig, yn athletwr, yn ganwr, yn actor ac yn actifydd, gwnaeth argraff ar unrhyw un a welodd ef yn perfformio neu a glywodd ei lais ar record neu radio. Fel mab i gaethwas a ddihangodd, ymgyrchodd dros hawliau'r llai ffodus, hyd yn oed os oedd yn golygu aberthu ei yrfa berfformio.

Bydd wastad cysylltiad agos rhwng Paul Robeson â Chymru. Mae nifer o lyfrau ac erthyglau wedi eu hysgrifennu am ei gysylltiadau â Chymru, yn ymdrin â'i gyfarfodydd ag Aneurin Bevan, ei ymddangosiadau cyson mewn gwyliau Cymreig, ei weithgareddau gwleidyddol a'i gefnogaeth i lowyr Cymru. Mae cerddoriaeth wedi cael ei dylanwadu hefyd, gyda rocwyr Cymreig y Manic Street Preachers yn canu am ei alltudiaeth wleidyddol o America yn eu cân ‘Let Robeson Sing’ oddi ar eu halbwm yn 2001 ‘Know Your Enemy’.

Gellir teimlo cysylltiad Robeson gryfaf yn ffilm y 1940au ‘The Proud Valley’, a welodd cymeriad Robeson David Goliath yn teithio i Gymru yn chwilio am waith. Roedd gan y pentrefwyr amheuon i ddechrau, ond buan iawn y croesawyd David i'w cymuned trwy gân a'i ymdrechion arwrol.

 

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pwy oedd Paul Robeson?
  • Pa gysylltiad oedd gan Paul Robeson â glowyr Cymru?
  • Pa frwydrau oedd yn gwynebu glowyr Cymru ar y pryd?
  • Pwy oedd glowyr Du Cymru?

Syniadau am weithgareddau

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iaith a pherthyn
  • Gwrando a deall
  • Deall safbwyntiau
Y Dyniaethau
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Hunaniaeth
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Deall hawliau dynol
  • Datblygu llwybrau ymholi

Llinell amser

Dyddiad geni

Ganed Paul Robeson ar 9 Ebrill 1898 yn Princeton, New Jersey, UDA.

Ysgol

Yn yr ysgol uwchradd disgleiriodd yn canu yn y côr, mewn drama ac mewn chwaraeon.

Coleg Rutgers

Enillodd ysgoloriaeth academaidd i Goleg Rutgers yn 1915, dim ond y trydydd Americanwr Affricanaidd i wneud hynny. Dioddefodd elyniaeth hiliol, yn enwedig ar y meysydd chwarae.

Y Gyfraith

Wedi iddo raddio yn Ysgol Gyfraith Columbia ymunodd Robeson â chwmni cyfreithiol, ond rhoddodd y gorau i'w yrfa yn y gyfraith oherwydd hiliaeth.

Show Boat

Perfformiodd yn y sioe gerdd Show Boat yn Theatre Royal, Llundain yn 1928, gan gynnwys perfformiad ar orchymyn y brenin ym Mhalas Buckingham.

Glowyr Cymru

Dechreuodd perthynas Robeson â Chymru pan glywodd ganu gan gôr o lowyr ar orymdaith o'r Rhondda i Lundain yn 1929. Ymwelodd Robeson â Chwm Rhondda, a chryfhaodd ei gyswllt â phobl Cymru.

Othello

Ef oedd yr actor Du cyntaf i chwarae rhan Othello yn Llundain yn 1930.

Pwll glo Gresfordd

Canodd mewn cyngerdd ym Mhafiliwn Pier Llandudno pan ddaeth y newyddion am ffrwydrad yng Nglofa Gresffordd ger Wrecsam yn 1934. Cyfranodd Robeson yn hael i deuluoedd y 266 o ddynion a gollodd eu bywydau. Mwy o wybodaeth am drychineb Gresffordd.

The Proud Valley

Serennu yn 'The Proud Valley' yn 1940. Yn ystod y ffilmio bu Robeson yn rhan o'r gymuned leol, gan aros  gyda theuluoedd y glowyr.

Pasbort

Yn sgil ei actifiaeth wleidyddol a'i safiad dros hawliau dynol ar draws y byd, gosodwyd ef dan oruchwyliaeth a chafodd ei amddifadu o’i basbort. 

Cyngherddau radio

Recordiodd nifer o gyngherddau radio rhwng 1954-57 ar gyfer gwrandawyr yng Nghymru.

Eisteddfod

Wedi iddo gael ei basbort yn ôl, bu’n ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 1958.

Dyddiad marwolaeth

Bu farw 23 Ionawr 1976.



The Proud Valley, 1940

Cymru oedd y llwyfan ar gyfer ffilm Brydeinig olaf Robeson, The Proud Valley (1940), lle chwaraeodd forwr Affricanaidd-Americanaidd, sy'n teithio o UDA i Gaerdydd. Trwy gydol y ffilmio cafodd Robeson ei integreiddio i'r gymuned leol, gan aros fel gwestai gyda theuluoedd glowyr. Dywedodd Robeson yn ddiweddarach: 'Does un man yn y byd rwy'n ei hoffi yn fwy na Chymru' (Western Mail, 24 Chwefror 1949). 

(Trwy garedigrwydd STUDIOCANAL) Clip o The Proud Valley, ffilm o 1940 gyda Paul Robeson yn serennu.

Glowyr Du Cymru

Cafodd cymeriad Paul Robeson yn The Proud Valley ei ysbrydoli gan berson go iawn, ond faint ydyn ni’n ei wybod am hanes glowyr Du Cymru? Wrth i’r galw am lo dyfu, roedd y dociau yng Nghaerdydd a’r Barri yn rhan annatod o’r chwyldro diwydiannol ledled y byd. Cludwyd glo o Gaerdydd a de Cymru ar draws y byd, a daeth rhai o'r masnachwyr oedd yn gweithio ar y llongau o orllewin Affrica. Arhosodd llawer ohonynt yng Nghymru i fyw, gan ddechrau bywydau newydd. Dechreuodd yr ymfudiad hwn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yn ogystal â gweithio i lawr yn y dociau, daeth llawer o fasnachwyr o hyd i waith ym mhyllau glo de Cymru.

Historic Dock Project

Mae Rebecca a Paul Eversley yn ŵr a gwraig sydd wedi bod yn ymchwilio straeon mudo i Gymru ers dros 15 mlynedd. Mae Rebecca yn archeolegydd a hanesydd gyda dros 25 mlynedd o brofiad ac mae Paul yn artist a hanesydd sy'n arbenigo mewn hanesion mudo o orllewin Affrica i Gymru.

Mae’n bwysig cydnabod bod ein gorffennol diwydiannol wedi cyfrannu at fudo sylweddol i Gymru. Roedd unigolion yn teithio yn fyd-eang i weithio a gwelodd Cymru (a oedd y allforio glo yn helaeth) newid sylweddol gan fod angen mwy o lafur i helpu gyda'r galw am fwy o lo.

Cymuned Gelligaer

Teuluoedd Gelligaer, Caerffili, a weithiodd ar draws meysydd glo de Cymru.

Mae glowyr du i'w gweld ledled y meysydd glo yng Nghymru. Mae cofnodion yn nodi bod nifer o forwyr masnachol wedi trosglwyddo sgiliau a ddefnyddiwyd ar fwrdd llongau ar gyfer y pyllau glo. Roedd rhai o'u rolau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Suddwr
  • Saer coed
  • Stoker
  • Hewer
  • Dyn tân

Mae cofnod bod glowyr Affricanaidd-Americanaidd o Pennsylvania, New Orleans, Alabama, a Virginia hefyd wedi gweithio yng Nghymru. Mwy o wybodaeth ar gael Historic Dock Project.

 

Astudiaeth achos

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Ysgol Hamadryad i ddysgu mwy am brofiadau glowyr Du o Gymru a’r cysylltiad rhwng Paul Robeson a’r glowyr. Nod y prosiect oedd dysgu mwy am y diwydiant glo yng Nghymru ac ymchwilio i gyfraniad pobl Ddu yn y diwydiant. Cafodd y dysgwyr gyfle i ddysgu mwy am lowyr Du yng Nghymru gyda’r awdur a’r hanesydd Rebecca Eversley-Dawes, mewn gweithdy yn ymchwilio ffynhonnellau cynradd ac eilaidd. Bu’r dysgwyr hefyd yn ymchwilio’r cysylltiad rhwng Paul Robeson a’r glowyr. Ar ôl gwylio clip o’r ffilm ‘Proud Valley’ a chael gweithdy barddoniaeth gydag Alex Wharton, Children's Laureate Wales. Wedi i'r dysgwyr wrando ar gerdd Alex Wharton ‘Diolch Mr Robeson’ cafwyd cyfle i greu cwpledi am y glowyr Du o Gymru. I orffen y prosiect, creodd y dysgwyr blatiau coffa i’r glowyr Du gyda’r artist Lowri Davies. Cafodd y cwpledi a gynhyrchwyd yng ngweithdy Alex Wharton eu hychwanegu ar y platiau.

“Roedd y prosiect yn ddiddorol iawn ac fe wnes i fwynhau cwrdd a phobl sydd yn arbenigo mewn pethau gwahanol. Roedd hi’n gyffrous cael gweithio gyda phobl pwysig sy’n gwybod lot am bethau amrywiol. Rydw i’n hoffi rap a dydw i ddim wedi clywed rhywun yn rapio yn yr ysgol o’r blaen felly nes i fwynhau clywed Alex Wharton yn rapio ei farddoniaeth. Mae e’n neud barddoniaeth yn cŵl.” 

Mustafa, 8 oed. 

 

Mwy o wybodaeth