Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Cafodd yr arlunydd Josef Herman ei eni yng Ngwlad Pwyl ym 1911, i deulu Iddewig. Yn 1938, cyn yr Ail Ryfel Byd, bydd rhaid iddo ffoi o Wlad Pwyl oherwydd cynnydd mewn gwrth-semitiaeth  ac roedd yn un o lawer o artistiaid Iddewig a ddihangodd rhag erledigaeth y Natsïaid. Teithiodd Herman ar draws Ewrop, i Glasgow, lle bu'n aros rhwng 1940-1944. Tra yn yr Alban cafodd wybod gan y Groes Goch bod ei deulu wedi marw yn y Geto yn Warsaw. Roedd Herman wedi dioddef yn emosiynol wedi iddo glywed y newyddion ac ei ymateb artistig oedd creu lluniau a phaentiadau ar themâu Iddewig yn delio â cholled, marwolaeth a chofio. Aeth y gweithiau hyn ar goll nes iddo eu darganfod eto yn 1985 a rhoddwyd y teitl Atgof o’r Atgofion iddynt. Dywedodd am y bobl yn y gweithiau celf hyn " Doedd dim modd eu cyffwrdd dim mwy ond gallwn eu dilyn â llinellau; Gallwn ddarlunio manylion amlwg eu dillad, mynegiant, arwyddion eu dwylo... Dilynais freuddwyd... roedd fy atgof i o'r bobl hynny'n hardd..." Herman (1985) 

Symudodd Herman i Ystradgynlais yng Nghwm Tawe yn 1944, dywedodd "Arhosais yma oherwydd des i o hyd i'r cyfan oedd ei angen arna i. Des i yma’n ddieithryn am bythefnos; trodd y pythefnos yna'n 11 mlynedd." Daeth yn rhan bwysig o'r gymuned leol lle cafodd yr enw annwyl 'Joe Bach'. Roedd Herman, fel ffoadur, yn teimlo ei fod yn perthyn yn Ystradgynlais a buodd yn paentio'r bobl leol a’r glowyr. Roedd arddull artistig Herman yn amlwg yn ei waith. Mae Herman fwyaf enwog am gwaith celf ar themâu Cymreig, yn enwedig y glowyr.

Ffynhonnell: Gwefan Josef Herman Art Foundation Cymru (2021)

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pwy oedd Josef Herman?
  • Pa fath o Artist oedd Josef Herman?
  • Beth yw themâu allweddol Herman?
  • Beth sydd i’w weld yn nelweddau Herman?
  • Sut gwnaeth Herman farciau. Ydy'r rhain yn wahanol yn ei baentiadau, a'i ddarluniau?
  • Pwy yw artistiaid eraill a ymfudodd ac ymgartrefi yng Nghymoedd De Cymru?
  • Pam mae gwybod am fywyd Josef Herman yn bwysig i’w gelfyddyd?
  • Pam roedd Cymru yn bwysig i Josef Herman?
  • Beth yw'r rhesymau a allai achosi i bobl ffoi o'u gwlad?
  • Beth yw technegau a phrosesau Herman?

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Arbrofi gyda gwahanol ddulliau a thechnegau prosesau celf
  • Archwilio themâu o berthyn ac ymdeimlad o le.
  • Darganfod gwaith artistiaid a ymfudodd i gymoedd De Cymru.
  • Datblygu sgiliau peintio lluniadu a gwneud printiau.
  • Archwilio gwaith Josef Herman
  • Ymchwilio i resymau dros adael cartref a dod yn ffoadur
  • Datblygu ysbrydoliaeth o waith Herman i gynhyrchu celf.
  • Ysgrifennu am themâu a ddarganfuwyd trwy archwilio bywyd a gwaith Josef Herman
  • Cynhyrchu drama, ffilm, darn o gerddoriaeth, barddoniaeth yn seiliedig ar themâu a archwiliwyd

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Cynrychioli hunaniaethau personol cymdeithasol a diwylliannol
  • Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
  • Meistroli technegau creadigol
  • Archwilio diben ac ystyr
  • Cyfleu teimladau ac emosiynau
  • Datblygu a mireinio dyluniadau
Iechyd a Lles
  • Empathi
  • Deall cydberthnasau
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol
Dyniaethau
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Hunaniaeth

Josef Herman a'i waith celf

Y daith i Ystradgynlais

1. Cafodd Josef Herman ei eni i deulu Iddewig yn Warsaw, Gwlad Pwyl ym 1911. Mynychodd Ysgol Gelf Warsaw rhwng 1930 a 1932.

2. Ffoi o Wlad Pwyl i Wlad Belg cyn yr Ail Ryfel Byd oherwydd gwrth-Semitiaeth cynyddol.

3. Dechreuodd yr Ail Ryfel Byd, a llwyddodd i ddianc o Wlad Belg i Ffrainc am gyfnod byr, cyn dod o hyd i loches yn Glasgow, yr Alban yn y pen draw.

4. Symud i Ystradgynlais yn 1944 ac aros am 11 mlynedd. Daeth yn rhan fawr o’r gymuned leol, lle cafodd y llysenw hoffus ‘Joe Bach’.

 

Perthyn

Gwnaeth Josef Herman ddarganfod ymdeimlad o berthyn yn Ystradgynlais. Yn ystod ei amser yng Nghwm Tawe, ffeindiodd modd o weithio a arhosodd gydag ef am weddill ei oes a’i yrfa fel artist. Mae'r paentiadau o'r gweithwyr yn Ystradgynlais yn canolbwyntio ar y thema o berthyn ac yn rhoi cipolwg o berthnasau'r bobl leol. Roedd y rhain yn bwysig iddo; y glowyr, mamau a'u babanod, y glowyr a'u babanod, pobl gyda’i gilydd, wrth eu gwaith ac ar gorneli strydoedd. Mae’r delweddau o gasgliad y Llyfrgell yn cynrychioli’r ymdeimlad o berthyn ac yn edrych ar berthnasau o fewn y gymuned a phwysigrwydd y themâu hyn wrth i Herman ymgartrefu yng Nghymru fel artist ymfudol. 


Brasluniau o Ystradgynlais gan Josef Herman

Gyda diolch i Gwenllian Beynon, Sefydliad Celf Josef Herman a Choleg Celf Abertawe.

Astudiaeth achos

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Y Neuadd Les, Ystradgynlais ac Ysgol Maesydderwen i ddysgu mwy am brofiadau ffoaduriaid a’u hymdeimlad o berthyn yn Ystradgynlais a’r cyffiniau. Roedd Ystradgynlais hefyd yn gartref i’r artist ffoaduriaid Josef Herman am dros ddegawd. Mae'r Neuadd Les yn gweithio'n agos gyda grŵp o ffoaduriaid o Syria. Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Daeth grŵp o ffoaduriaid o Syria am daith undydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Roedd dysgwyr Ysgol Maesydderwen wedi bod yn dysgu am Josef Herman, ei waith celf a’i brofiadau o symud i Gymru. Cyflwynodd artistiaid lleol Vivian Rhule a Menna Buss weithdai am Josef Herman yn Ysgol Maesydderwen.