Symud i'r prif gynnwys

Pecyn cymorth addysg a dysgu

Cefndir

Mae Ramadan yn fis sanctaidd i Fwslemiaid. Dyma nawfed mis y calendar Islamaidd, ac mae ymprydio (peidio a bwyta o doriad gwawr tan fachlud haul) yn ystod y mis hwn yn un o Golofnau Islam a elwir yn Sawm. Mae’n gyfnod o ymprydio, gweddïo, myfyrio, rhoi i elusen a cheisio bod yn berson gwell.

Mae'r oriau ymprydio yn hirach yng Nghymru nag mewn rhai gwledydd eraill, oherwydd y lledred uchel ac oriau golau dydd hir. Er enghraifft, gallai’r Suhoor (y pryd olaf cyn y wawr) yng Nghymru fod tua 5 y bore, a’r amser Iftar (yr amser i dorri’r ympryd ar ôl machlud haul) wedi 8 yr hwyr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Fwslimiaid ymprydio am fwy na 15 awr y dydd.

Ar ddiwedd Ramadan bydd Mwslemiaid yn dathlu Eid al-Fitr, sy'n nodi cwblhau'r ympryd a'r diolch i Allah (Duw). Mae Mwslimiaid yn gwisgo eu dillad gorau, yn gweddïo yn y mosg, yn cyfnewid anrhegion ac yn mwynhau prydau yr ŵyl gyda'u teuluoedd a'u cymunedau.

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Beth mae Mwslemiaid yn gwneud yn ystod Ramadan?
  • Beth fyddai heriau ymprydio am 30 diwrnod?
  • Beth sy'n digwydd mewn Iftar?
  • Sut fyddech chi'n dathlu Eid al-Fitr gyda’ch teulu a’ch cymuned?
  • Sut gall pobl nad ydynt yn Fwslimiaid fod yn feddylgar yn ystod Ramadan?

Syniadau am weithgareddau

  • Gwyliwch y fideo.
  • Trafodwch y graffeg gwybodaeth.
  • Crëwch linell amser o’r gwahanol gerrig milltir yn ystod Ramadan.

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Gwrando gydag empathi a pharch
  • Amrywiaeth ieithoedd
  • Deall safbwyntiau
Dyniaethau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Hunaniaeth
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol

Diwrnod ym mywyd Mwslemiaid o Gymru yn ystod Ramadan

Cynnwys wedi ei greu ar gyfer prosiect Cymunedau Cymru gan Now in a Minute Media - Cyfryngau Annibynnol gan Fwslemiaid Cymreig.


Clip o Archif Ddarlledu Cymru


Astudiaeth achos

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Ysgol Gynradd Kitchener i ddysgu a deall mwy am grefydd yn eu hardal o  Gaerdydd. Cysylltodd Addewid Caerdydd â’r Llyfrgell i holi os byddai modd i ni gefnogi prosiect gyda'n archifau. Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Pwyslais ar sut gallwn ni gyd-fyw a chydfodoli mewn cymuned sydd ag amryw o grefyddau. 
  • Creu ffilm ddogfen ar y thema gan ddefnyddio clipiau o Archif Ddarlledu Cymru i gyfoethogi eu ffilm. 
  • Trefnodd y Llyfrgell i’r gwneuthurwr ffilmiau Mo Jannah fynd i’r ysgol i gynnal gweithdy creu ffilm ac ysbrydoli’r dosbarth. 
  • Yn gysylltiedig â’r prosiect, cynhaliwyd Iftar yn yr ysgol yn ystod Ramadan i’r gymuned Fwslemaidd. Roedd teuluoedd a pherthnasau wedi casglu i weddïo ac i dorri’r ympryd ar dir yr ysgol. 
  • Ymchwilio Ramadan i baratoi ar gyfer y Iftar.