Symud i'r prif gynnwys

Clipiau BBC Cymru Wales o Archif Ddarlledu Cymru

Cefndir

Yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y Deyrnas Unedig

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â phrif ddarlledwyr Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dod ag archifau BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C ynghyd i roi mynediad i dros ganrif o deledu a radio.

Mae’r archif o dros 500,000 o ddarllediadau yn cynnwys rhaglenni o ddyddiau cynnar darlledu y BBC yng Nghymru yn ystod y 1920au, y darllediad masnachol cyntaf gan TWW, sefydlu Teledu Harlech, oes HTV Cymru ac ITV Cymru Wales, a cyfnod lansio S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf.

Gellir cael mynediad at Archif Darlledu Cymru yng Nghorneli Clip ledled Cymru ac yng Nghanolfan Archif Darlledu'r Llyfrgell Genedlaethol. Er na fyddwch yn gallu gwylio neu gwrando ar y casgliad cyfan o'ch cartref oherwydd cyfyngiadau hawliau, mae dros 12,000 o glipiau ar gael i'w wylio o'ch cartref neu'ch ysgol trwy wefan Clip Cymru.

Isod rydym wedi casglu dros 240 o glipiau o Archif BBC Cymru Wales, yn amrywio o ddechrau'r 1960au i'r 2010au yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r clipiau hyn wedi'u trefnu mewn 12 thema er hwylustod i'ch defnydd a'ch hymchwil.

Gofalu am y casgliad

Mae ein casgliadau sgrin a sain yn cynnwys tapiau sain, finyl, CDs, casetiau fideo a rholiau o ffilmiau sydd gannoedd o fetrau o hyd. Mae'n bwysig storio'r rhain mewn awyrgylch oer, sych, fel arall gallant fynd yn gludiog a diraddio. Rydym yn storio ein tapiau magnetig pwysicaf mewn ystafell o'r enw Cawell Faraday, sydd wedi'i leinio â chopr i amddiffyn y cynnwys rhag effeithiau niweidiol meysydd electromagnetig. Mae gennym hefyd adran sy'n rheoli, cadw a digideiddio'r hen gyfryngau i'w cadw ar gyfer y dyfodol. Mae pob un o glipiau BBC Cymru Wales isod wedi mynd trwy'r broses hon o gadwraeth a digideiddio.


Themau

Gwleidyddiaeth

Gwleidyddiaeth

Etholiadau, Ymgyrchu, Hawliau

Chwaraeon

Chwaraeon

Hyfforddiant, Cystadleuaeth, Yr amrywiaeth o chwaraeon yng Nghymru, Timau Dynion a Menywod, Effaith gymdeithasol chwaraeon

Teithio

Teithio

Teithio, Ffyrdd, Rheilffyrdd, Y Môr, Hedfan

STEM

STEM

Arian, Cyfathrebu, Ein heffaith ar yr Amgylchedd, Effaith tywydd eithafol

Digwyddiadau

Digwyddiadau

Tryweryn a chronfeydd dŵr eraill, Cerrig milltir yr 20fed ganrif, Streic y glowyr, Datganoli, Patagonia

Mudo

Mudo

Ffoaduriaid, Diwylliannau lleiafrifol, Cymunedau amlddiwylliannol, Y Cymry dros y byd

Hanes

Hanes

Y 60au, Oes Fictoria, Hynafiaeth, Datblygiad a newid

Diwydiant

Diwydiant

Menter a busnes, Cyflogaeth, Diwydiannau craidd, Dirywiad diwydiant trwm, Cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol

Diwylliant

Diwylliant

Celf, Cerddoriaeth, Yr Iaith Gymraeg, Ieithoedd Celtaidd, Eisteddfodau, Traddodiadau

Bwyd

Bwyd

Amaethyddiaeth, Cynhyrchu bwyd, Hen arferion bwyd Cymru, Gwerthu bwyd, Bwyd amlddiwylliannol yng Nghymru

Crefydd a chred

Crefydd a chred

Cristnogaeth, Islam, Bwdhaeth, Hindŵaeth, Siciaeth, Credoau ac ofergoeliaeth

Iechyd a lles

Iechyd a lles

Y corff dynol, Gofal iechyd, Lles

Gwybodaeth pellach

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Beth yn y fideo sy'n edrych yn debyg ac yn wahanol i heddiw?
  • Beth sydd yng nghefndir y fideo? Sylwch ar y manylion sy'n dweud wrthych sut oedd bywyd yn y gorffennol.
  • Sut mae pobl yn gwisgo yn y fideo? Byddech chi'n gwisgo hynny heddiw?
  • Pa dechnoleg sydd yn y fideo? Ydyn ni'n defnyddio rhywbeth gwahanol heddiw?
  • Gwrandewch ar beth mae pobl yn ei ddweud. Sut mae pobl yn siarad, ac am beth? Byddai pobl yn siarad fel hynny heddiw?
  • Pa fath o bobl fyddai wedi gwylio'r fideo hwn yn wreiddiol?
  • Beth yw prif bwrpas neu neges y fideo?
  • Pa themâu mae'r fideo yn cyffwrdd arno?
  • Wyt ti'n cytuno neu anghytuno gyda neges y fideo? Esboniwch pam.

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Porwch wefan Clip Cymru i weld a oes clipiau yn agos at eich ardal leol
  • Ewch i'ch cornel clip lleol a chael mynediad i holl Archif Ddarlledu Cymru
  • Gwnewch fideo ar yr un pwnc â chlip o'r archif isod yn dangos sut mae pethau wedi newid heddiw
  • Dyluniwch banel gwybodaeth yn amlinellu pwyntiau allweddol y fideo, ac yn dangos sut mae pethau heddiw
  • Gwahoddwch bobl i siarad am eu hatgofion yn ymwneud â themâu un o'r clipiau
  • Cynhaliwch sesiwn ymchwil ar-lein i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r clip, gan lunio'r wybodaeth ar boster neu fap meddwl mawr

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Gwrando gydag empathi a pharch
  • Gwrando a deall
  • Dysgu ieithoedd
  • Deall safbwyntiau
  • Amrywiaeth Ieithoedd
Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Cynrychioli hunaniaethau personol cymdeithasol a diwylliannol
  • Cyfleu syniadau
  • Archwilio diben ac ystyr
  • Cyfleu teimladau ac emosiynau
Y Dyniaethau
  • Ddatblygu Llwybrau Ymholi
  • Deall Syniadau a Safbwyntiau
  • Effaith Dynol ar y byd
  • Deall y gorffennol
  • Deall hawliau dynol
  • Dehongli ffynonellau a gwybodaeth
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Achos ac effaith
  • Amgylcheddau cynaliadwy
  • Nodweddion daearyddol
  • Hunaniaeth
  • Tebygrwydd a gwahaniaethu cymdeithasol
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Newidiadau dros amser
  • Effaith hanesyddol ar gymunedau  
  • Systemau llywodraethu
Gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Dylunio i ddiwallu anghenion defnyddwyr  
  • Ecosystemau ac esblygiad
  • Archwilio’r tair gwyddor
  • Penderfyniadau dylunio
  • Grymoedd
  • Cyfleu syniadau dylunio
  • Amddiffynfeydd naturiol
  • Defnyddio ynni
  • Systemau cyfathrebu
  • Gwerthuso tystiolaeth
  • Effaith amgylcheddolCreu cynhyrchion
Iechyd a Lles
  • Teimladau ac ymddygiad
  • Penderfyniad personol
  • Diet a maethiad
  • Teimladau ac iechyd meddwl
  • Penderfyniad cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol
  • Myfyrdod
  • Hawliau a chyfrifoldebau
  • Empathi