Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwch yn clywed y term “Gwasanaeth Cenedlaethol” mewn rhaglenni teledu, dogfennau, neu mewn sgyrsiau ac ar gyfryngau cymdeithasol. I lawer o bobl heddiw, yn enwedig pobl ifanc, gall y term hwn ymddangos yn anghyfarwydd neu’n aneglur. 

Fodd bynnag, os edrychwn yn ôl ar y cyfnod rhwng 1947 a 1963 yng Nghymru ac ar draws y DU, roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn ofynnol i lawer o ddynion ifanc dreulio cyfnod yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. O ganlyniad, roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn rhan gyffredin o gymdeithas ac yn aml yn cael ei drafod o fewn teuluoedd, gweithleoedd a chymunedau lleol. 

Roedd ei effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r rhai a wasanaethodd. Gallai ddylanwadu ar fywyd teuluol, cyfeillgarwch, cyfleoedd gwaith, a dewisiadau bywyd yn y dyfodol. Roedd pobl a chymunedau’n profi Gwasanaeth Cenedlaethol mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a’u profiadau. 

Heddiw, mae gan lawer o bobl yng Nghymru gysylltiadau personol neu deuluol â Gwasanaeth Cenedlaethol. Mae rhai’n cofio eu profiadau eu hunain, tra bod eraill yn cofio straeon gan aelodau o’u teulu neu’u cymuned. Mae’r straeon hyn yn ein helpu i ddeall y gorffennol, ac i archwilio sut mae bywyd yng Nghymru wedi newid dros amser, yn ogystal â’r hyn sydd wedi parhau’n bwysig i bobl a chymunedau—gan gefnogi’r syniad o gynefin. 

 

Mae Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru (WWVA) yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu am y profiadau hyn. Cafodd ei sefydlu yn 2019 ac mae ar gael ar Casgliad y Werin Cymru. Mae’r archif yn cynnwys cyfweliadau, ffotograffau a dogfennau gan bobl yng Nghymru a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod yr 20fed ganrif. 

Mae dros 1,500 o eitemau ar gael, y gall ysgolion eu defnyddio i gefnogi dysgu am hanes, hunaniaeth a chymuned. Mae’r archif yn parhau i dyfu ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith wrth gadw’r straeon pwysig hyn. 

 

Casgliad y Werin Cymru

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Beth yw eich barn ar ôl gwylio’r ffilmiau byr hyn?
  • Sut oedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru yn wahanol i’r rhai mewn rhannau eraill o’r DU?
  • Ydych chi’n meddwl bod y straeon a’r profiadau o Wasanaeth Cenedlaethol yn y casgliad hwn yn rhan o dreftadaeth Cymru?
  • Pa effaith gafodd Gwasanaeth Cenedlaethol ar deuluoedd a chymunedau yng Nghymru?
  • Ydych chi’n meddwl dylai pobl Cymru werthfawrogi profiadau pobl a gwblhaodd Wasanaeth Cenedlaethol?
  • Sut mae straeon personol cyn-filwyr o Gymru yn ein helpu i ddeall bywyd yn ystod cyfnod Gwasanaeth Cenedlaethol?
  • Beth yw eich barn am wasanaeth gorfodol?
  • Pa fathau o rolau wnaeth pobl o Gymru eu cyflawni yn ystod eu Gwasanaeth Cenedlaethol, a sut rydym ni’n gwybod hyn?

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Gwrando am Themâu Allweddol: Mae’r dysgwyr yn gwrando ar un cyfweliad ac yn nodi 3–5 thema allweddol
  • Ditectif Ffynonellau: Darparu darnau byr i’w harchwilio a’u trafod
  • Mapio Profiadau: Mae’r dysgwyr yn mapio lle bu pob cyn-filwr yn gwasanaethu
  • Cyfweliad: Un dysgwr yn cymryd rôl cyn-filwr; mae’r lleill yn gofyn cwestiynau
  • Dadlau: A oedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn deg?
  • Ysgrifennu Creadigol: Diwrnod mewn Gwasanaeth
  • Cymharu a Chyferbynnu: Cymharu profiadau dau gyn-filwr
  • Trafodaeth Hunaniaeth a Chymru
  • Prosiect Dogfen Fer: Creu fideos byr mewn grwpiau
  • Myfyrio “Yna a Nawr”: Cymharu profiadau Gwasanaeth Cenedlaethol â bywyd pobl ifanc heddiw

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Dyniaethau
  • Ymchwilio
  • Dehongli
  • Newid a pharhad
  • Lleoedd
  • Effaith Dynol ar y Byd
  • Hunaniaeth ac Amrywiaeth
  • Achos ac Effaith
  • Cyfiawnder, anghydraddoldeb a hawliau
  • Gweithredu Cymdeithasol
  • Cwestiynau moesegol a moesol
Iechyd a Llesiant
  • Cyfathrebu, Ceisio Cymorth ac Empathi
  • Dewisiadau Gwybodus
  • Dylanwadau a Normau Cymdeithasol
  • Hunaniaeth a Gwerthoedd
  • Hawliau a Pharch
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Strategaethau Darllen
  • Dod i gasgliad
  • Ymateb i destunau
  • Sut mae Gramadeg yn Effeithio ar Ystyr
  • Datblygu Geirfa
  • Cyfathrebu'n effeithiol a chyfleu syniadau a barn (Ar Lafar)
  • Cydweithredu a thrafod
  • Ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd

Beth oedd Gwasanaeth Cenedlaethol?

 

Ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben ym 1945, dechreuodd Prydain leihau maint ei lluoedd arfog wrth i bobl ddychwelyd i fywyd sifil. Fodd bynnag, roedd y llywodraeth eisiau cadw digon o filwyr i gyflawni ei chyfrifoldebau ym Mhrydain a thramor. I wneud hyn, cyflwynwyd Gwasanaeth Cenedlaethol drwy Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol 1948. Roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o ddynion ifanc ffit yn gorfod cofrestru yn ôl y gyfraith, ac y gallent gael eu galw i ymuno â’r lluoedd arfog. Nid oedd menywod yn rhan o’r gyfraith hon. Roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn fath o wasanaeth gorfodol adeg heddwch, ac effeithiodd ar lawer o deuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac ar draws y DU. 

Fel arfer, roedd dynion ifanc yn cael eu galw i mewn yn 18 oed. Roedd yn rhaid iddynt gofrestru, mynychu archwiliad meddygol, ac os oeddent yn addas, mynd i wersyll hyfforddi. Gallai gwrthod cymryd rhan arwain at gosb gyfreithiol, gan gynnwys carchar. Fodd bynnag, gallai rhai ohirio neu osgoi gwasanaeth. Er enghraifft, gellid ei ohirio ar gyfer prentisiaid, myfyrwyr prifysgol, neu eraill oedd mewn addysg neu hyfforddiant. Weithiau, gallai dynion mewn swyddi pwysig fel ffermio neu gloddio glo gael eu heithrio tra oeddent yn gwneud y gwaith hwnnw. Mae’r rheolau hyn yn dangos sut roedd y llywodraeth yn ceisio cydbwyso anghenion y fyddin ag anghenion bywyd bob dydd. 

Nid oedd pawb yn teimlo’r un fath am Wasanaeth Cenedlaethol. Roedd rhai yn ei dderbyn fel dyletswydd, tra roedd eraill yn anghytuno am resymau moesol, gwleidyddol neu grefyddol. Roedd rhaid i bobl a oedd yn gwrthwynebu ar sail cydwybod egluro eu safbwynt i dribiwnlys. Os oedd eu hachos yn cael ei dderbyn, efallai na fyddent yn gorfod gwasanaethu yn y fyddin, neu gallent wneud gwaith sifil yn lle. Mae astudio’r profiadau hyn yn helpu dysgwyr i feddwl am sut mae llywodraethau’n gwneud penderfyniadau, a sut mae pobl yn ymateb pan fydd deddfau’n effeithio ar eu bywydau. 

Cyfweliwyd 25 o gyn-filwyr Gwasanaeth Cenedlaethol gan Age Cymru Dyfed ar gyfer y prosiect hwn. Siaradodd y cyn-filwyr yn agored am eu profiadau personol. Mae llawer yn myfyrio ar yr hyn a ddysgon nhw, gan gynnwys sgiliau newydd sydd wedi aros gyda nhw trwy gydol eu bywydau.

 

Cyn-filwr o’r Fyddin Brydeinig, Dennis Pikes, gyda Chwmni D, Platŵn 10, Korea, 1951

Beth oedd dyletswyddau’r dynion yn ystod eu gwasanaeth?

 

Fel arfer, roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn para hyd at ddwy flynedd, er bod hyd y gwasanaeth wedi newid dros amser. Cyn 1951, roedd dynion yn gwasanaethu am 12 mis, wedyn 18 mis, ac yn ddiweddarach am ddwy flynedd. Roedd y rhan fwyaf yn cwblhau eu gwasanaeth yn y Fyddin neu’r Llu Awyr Brenhinol, tra roedd llai yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol. 

Mae’r adnoddau canlynol yn cynnwys clipiau ffilm byr o gyfweliadau a recordiwyd gan Age Cymru Dyfed gyda chyn-filwyr yng Nghymru a gwblhaodd Wasanaeth Cenedlaethol ym Mhrydain a thramor. Mae’r tystiolaethau uniongyrchol hyn yn disgrifio amrywiaeth o brofiadau, gan gynnwys gwasanaeth yn Korea, Malaya, Cyprus, Kenya, Malta ac Aden, yn ogystal â gwaith yn gysylltiedig ag achos y frech wen yng Nghymru. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig tystiolaeth ddefnyddiol i archwilio profiadau personol, cyd-destun hanesyddol ac effaith gwasanaeth ar fywydau pobl. 

Wrth astudio Gwasanaeth Cenedlaethol, mae’n bwysig nodi bod 395 o ddynion wedi marw tra ar wasanaeth gweithredol yn ystod eu gwasanaeth gorfodol. Mae “gwasanaeth gweithredol” yn cyfeirio at ardaloedd o wrthdaro, fel Korea a’r argyfyngau ym Malaya, Kenya, Aden a Cyprus. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys y rhai fu farw yn ystod gwasanaeth oherwydd damweiniau neu salwch.

 

Diffoddwr Tân y RAF, Ernie Hughes, wrth ymyl awyren gludo wedi damwain, Kenya, dechrau’r 1950au

Bernard Phillips - Y Fyddin Brydeinig

 

Dechreuodd Bernard Phillips o Lanelli ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda Chatrawd y Cymry (Welch Regiment) ym 1951. Ar ôl hyfforddi ym Mrecon, Hong Kong a Japan, teithiodd i Korea i ymuno â’i gatrawd. Pan gyrhaeddodd Busan ym mis Mawrth 1952, roedd Rhyfel Korea’n parhau o hyd. Ni chaniatawyd i Bernard fynd i’r rheng flaen nes ei fod yn bedair ar bymtheg oed. 

Yn y rheng flaen, disgrifiodd Bernard amodau a oedd yn ei atgoffa o ryfela’r ffosydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd ffosydd yn ymestyn ar draws bryniau a mynyddoedd ger y llinell a elwid y 38ain paralel. Roedd gan y lluoedd oedd yn gwrthwynebu system debyg o ffosydd, ac roedd y rhyfel wedi cyrraedd sefyllfa lle nad oedd y naill ochr na’r llall yn ennill, er bod ymosodiadau’n parhau. 

Treuliodd Bernard wyth mis yn y rheng flaen yn Korea cyn dychwelyd adref. Cafodd ei ryddhau o’r Fyddin Brydeinig ym mis Mai 1953, ychydig cyn coroni Y Frenhines Elizabeth II. Cafodd ei gyfweld yn ei gartref yn Llanelli yn 92 oed.

 

Bernard Phillips ger ei bencadlys yn Hong Kong

 

Bryan Vaughan - Y Fyddin Brydeinig

 

Ganwyd Bryan Vaughan yn Eglwyswrw, Sir Benfro, ym 1937. Dechreuodd ei Wasanaeth Cenedlaethol ym mis Mai 1956 a hyfforddodd yng Ngogledd Cymru cyn teithio i Singapore ar gyfer hyfforddiant yn y jyngl. Gwasanaethodd fel gyrrwr a milwr magnelau gyda 75 Batri, 48 Catrawd Faes, y Magnelau Brenhinol, wedi’i leoli ym Malaya (Malaysia heddiw). 

Roedd ei rôl yn cynnwys gyrru a chynnal cerbydau, yn ogystal â chymryd rhan mewn patrolau hir yn y jyngl, a allai bara hyd at chwe wythnos. Yn ystod y patrolau hyn, roedd y milwyr yn gweithio i ddod o hyd i ffrwydron oedd ar ôl o’r Ail Ryfel Byd ac i’w gwneud yn ddiogel. 

Roedd Bryan yn byw mewn adeiladau syml o’r enw “cytiau Nissen”, heb ddŵr poeth ac ychydig iawn o amddiffyniad rhag y gwres trofannol a’r glaw trwm. Tra oedd ef yno, daeth Malaya yn wlad annibynnol. Roedd hefyd yn gyfnod o wrthdaro rhwng grwpiau lleol a lluoedd y Gymanwlad. 

Yn ddiweddarach, rhannodd Bryan ei atgofion mewn cyfweliad yn ei gartref yn Aberporth.

 

Bryan Vaughan ger lori'r fyddin

 

Dennis Pikes - Y Fyddin Brydeinig

 

Ym mis Hydref 1950, roedd Dennis Pikes yn byw yn Hereford pan ddechreuodd ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda Milwyr Troed Ysgafn y Brenin Sir Amwythig (KSLI). Ar ôl 10 wythnos o hyfforddiant sylfaenol a 5 wythnos o hyfforddiant sgiliau pellach, ymunodd â Chwmni ‘D’ o’r Bataliwn Cyntaf. Anfonwyd y cwmni i Hong Kong, lle parhaodd Dennis â’i hyfforddiant milwrol, gan gynnwys gorymdeithiau hir yn y Tiriogaethau Newydd. Ar y pryd, roedd yn disgwyl cael ei anfon i Malaya. 

Fodd bynnag, ar ôl ymladd trwm yn Korea ym mis Ebrill 1951, anfonwyd Cwmni ‘D’ KSLI yno yn lle hynny. Yn Korea, roedd Dennis a’i uned yn cynnal patrolau ar hyd y rheng flaen, gan gynnwys ardaloedd ger Afon Imjin. Weithiau, roedden nhw’n dod ar draws milwyr y gelyn tra ar batrôl. 

Cwblhaodd Dennis gyfnod gwasanaeth o 12 mis. Er na chafodd ei anafu’n gorfforol, cofiodd y peryglon a wynebodd ei grŵp a cholli cymrodyr yn ystod y gwrthdaro. 

Ar ôl ei wasanaeth yn Korea, treuliodd Dennis gyfnod byr ar wyliau yn Tokyo, Japan, cyn dychwelyd i’r DU ym mis Awst 1952.

 

Dennis Pikes. Yn Tokyo. 1952

 

Ernie Hughes - Y Llu Awyr Brenhinol (RAF)

 

Cafodd Ernie ei fagu yn Aberystwyth a dechreuodd ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Llu Awyr Brenhinol (RAF) ym 1952 pan oedd yn 18 oed. Er ei fod eisiau hyfforddi fel diffoddwr tân, nid oedd y rôl hon ar gael fel arfer i’r rhai oedd yn gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol. Felly, penderfynodd ymestyn ei wasanaeth er mwyn ymuno â Gwasanaeth Tân y RAF. 

Ar ôl hyfforddi, cafodd ei anfon i RAF Llandwrog yng Ngogledd Cymru, lle roedd diffoddwyr tân yn helpu i fonitro storfeydd o ffrwydron peryglus oedd ar ôl o’r Ail Ryfel Byd. Ar ôl blwyddyn, anfonwyd Ernie dramor, ac yn y pen draw fe gyrhaeddodd RAF Eastleigh (Maes Awyr Rhyngwladol Nairobi heddiw) yn Kenya. 

Ar y pryd, roedd Kenya yn profi cyfnod o ansicrwydd a gwrthdaro, wrth i bobl ddechrau gwrthsefyll rheolaeth Prydain ar y wlad. Roedd hyn yn rhan o’r daith tuag at annibyniaeth. Ymunodd Ernie ag uned arbenigol oedd yn cefnogi gweithrediadau ar y ddaear. 

Yn ystod ei wasanaeth, bu Ernie yn mynychu damweiniau awyrennau a thân. Roedd ei rôl yn aml yn cynnwys gwaith achub, weithiau mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn.

 

Diffoddwr Tân y RAF, Ernie Hughes, yn gyrru bowser dŵr, RAF Eastleigh, Kenya, y 1950au

 

Mervyn Rees – Y Llu Awyr Brenhinol (RAF)

 

Ganwyd Mervyn yn Wiltshire ym 1935 a hyfforddodd fel peiriannydd cyn dechrau ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Llu Awyr Brenhinol (RAF) ym 1956. Ar ôl hyfforddiant sylfaenol, hyfforddodd fel gyrrwr ac yna cafodd ei anfon i Ynys y Nadolig yn y Cefnfor Indiaidd, safle dan reolaeth Prydain a ddefnyddiwyd ar gyfer profi arfau niwclear. 

Oherwydd ei sgiliau peirianneg, gofynnwyd i Mervyn weithio mewn ardal gyfyngedig am weddill ei wasanaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n dyst i nifer o ffrwydradau profion niwclear. 

Yn ddiweddarach, siaradodd Mervyn am yr effeithiau iechyd hirdymor a brofodd llawer o’r rhai a wasanaethodd yno. Disgrifiodd ei brofiadau fel rhai heriol iawn, ac fe fyfyriodd ar sut roeddent wedi effeithio arno ef ac eraill trwy gydol eu bywydau. 

Rhannodd ei atgofion mewn cyfweliad a recordiwyd yn ei gartref yn Saundersfoot, Sir Benfro, pan oedd yn 89 oed.

 

Mervyn Rees (RAF) ar ei wely yn ei babell ar Ynys y Nadolig

 

Norman Kenney – Cyfweliad gyda disgybl Ysgol Penweddig, Lyra Morgan

 

Cwblhaodd Norman Kenney ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol yn y Fyddin Brydeinig rhwng 1956 a 1958. Gwasanaethodd fel milwr yn Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol a threuliodd lawer o’i amser wedi’i leoli yng Nghyprus. 

Mewn cyfweliad gyda disgybl Ysgol Penweddig, Lyra Morgan, mae Norman yn rhannu ei brofiadau o fywyd bob dydd fel milwr yn ystod cyfnod o densiwn ac ansicrwydd ar yr ynys. Mae’n disgrifio’r arferion dyddiol, y cyfrifoldebau, a’r heriau wynebodd y rhai oedd yn gwasanaethu yno. Mae hyn yn ein helpu i ddeall sut beth oedd bywyd i bobl ifanc yn y lluoedd arfog yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae atgofion Norman, gan gynnwys ei amser yng Nghyprus, yn rhan o Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru. Mae ei stori’n ein helpu i ddysgu am y gorffennol drwy brofiadau personol a thystiolaeth uniongyrchol.

 

Lans-Corporal Norman Kenney, Cyprus, 1957

 

Vyron Thomas - Y Fyddin Brydeinig

 

Cafodd Vyron ei fagu yng Ngarnswllt, pentref ar y ffin rhwng Abertawe a Sir Gaerfyrddin, ac fe hyfforddodd fel plymwr ar ôl gadael yr ysgol. Ym 1957, dechreuodd ei Wasanaeth Cenedlaethol, gan gwblhau hyfforddiant sylfaenol yn Aberhonddu a hyfforddiant milwyr traed pellach yng Nghaerdydd cyn ymuno â’r Bataliwn Cyntaf, Catrawd y Cymry (Welch Regiment). 

Teithiodd ar long filwrol i Cyprus, lle roedd tensiwn ac ansicrwydd wrth i rai grwpiau ymgyrchu dros annibyniaeth oddi wrth reolaeth Prydain. Yn ystod ei wasanaeth, profodd Vyron sefyllfaoedd peryglus, gan gynnwys ymosodiad ar gonfoi lle collodd ffrind agos iddo yn anffodus. 

Cyn gorffen ei wasanaeth, cafodd ei anfon hefyd i Ogledd Affrica, lle bu’n cyflawni dyletswyddau milwrol yn Libya mewn amodau poeth a llwchlyd iawn, a oedd yn heriol iddo.

 

Cpl Vyron Thomas

 

William Morris – Cangen Feddygol y Llu Awyr Brenhinol (RAF)

 

Dechreuodd William Morris o Dreorci ei Wasanaeth Cenedlaethol tua diwedd 1960, ac roedd ymhlith y dynion olaf yng Nghymru i wneud hynny. Gwasanaethodd fel meddygwr yn y Llu Awyr Brenhinol (RAF) wedi’i leoli yn RAF Lyneham yn Wiltshire. Roedd ei rôl yn cynnwys teithio i leoedd fel Aden a Cyprus, lle roedd gwrthdaro ar y pryd. Roedd yn darparu gofal meddygol i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd oedd yn sâl neu wedi’u hanafu, ac yn cael eu cludo yn ôl i’r DU i gael triniaeth. 

Ym mis Ionawr 1962, yn ystod achos o frech wen, ymunodd William â thîm oedd yn cefnogi rhaglen frechu frys yn Ne-ddwyrain Cymru. Cafodd yr achos effaith ddifrifol cyn iddo gael ei reoli. 

Yn ddiweddarach, myfyriodd William yn gadarnhaol ar ei brofiadau fel meddygwr y RAF pan gafodd ei gyfweld yn ei gartref yn Rhydowen, Ceredigion, yn 86 oed.

 

William Morris, meddygwr y RAF – brechiadau yn erbyn y frech wen, y Rhondda

 

 

Cyfranwyr: Casgliad y Werin; Age Cymru Dyfed; Hugh Morgan; Neil Davies