Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Dyma adnodd ar Owain Fôn Williams, pêl-droediwr a chwaraeodd yn y gôl dros ei wlad, ac arlunydd uchel ei barch sydd wedi arddangos ei waith ym mhrif orielau Cymru. Mae’r adnodd yn canolbwyntio ar dri phortread sydd yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Chris Coleman – cyn reolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru

Gareth Bale – y chwaraewr sy’n dal y record am y mwyaf o gapiau a’r mwyaf o goliau dros Gymru

Ashley Williams – capten un o dimau pêl-droed cenedlaethol mwyaf llwyddiannus Cymru.

 

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Gwyliwch glip fideo o Owain Fôn Williams, Ashley Williams, neu Gareth Bale yn chwarae
  • Gwyliwch glip fideo o Chris Coleman
  • Ysgrifennwch ffeil ffeithiau o aelod arall o dîm Pêl-droed Cymru
  • Gwnewch portread eich hun o'ch hoff Pêl-droediwr o Gymru

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Dyniaethau
  • Ymchwilio
  • Dehongli
  • Hunaniaeth ac Amrywiaeth
Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Archwilio technegau ac adnoddau
  • Archwilio hunaniaeth creadigol
  • Cymharu gwaith creadigol
  • Gwerthuso a datblygu
Iechyd a Llesiant
  • Dylanwadau a Normau Cymdeithasol
  • Hunaniaeth a Gwerthoedd
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Strategaethau Darllen
  • Dod i gasgliad
  • Datblygu Geirfa
  • Cyfathrebu'n effeithiol a chyfleu syniadau a barn (Ar Lafar)
  • Cydweithredu a thrafod
  • Astudio Nofelau/Rhyddiaith
  • Ymateb i destunau

Portreadau Owain Fôn Williams

Cafodd y portreadau o Gareth Bale, Ashley Williams a Chris Coleman eu creu gan Owain Fôn Williams i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016.

Olew ar ganfas yw’r tri phortread. Cawsant eu harddangos fel rhan o arddangosfa ‘Arwyr’ Owain Fôn Williams yn Oriel Môn, oedd yn cynnwys nifer o ddarluniau o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.

Mae’r tri phortread yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers 2017.


Owain Fôn Williams

Cafodd Owain Fôn Williams ei eni ar 17 Mawrth 1987. Ef yw’r ieuengaf o dri brawd, ac enwau ei ddau frawd hŷn yw Alun a Gethin. Cafodd ei fagu ym mhentref Penygroes yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, ac aeth i Ysgol Gynradd Bro Lleu ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle.

Roedd Owain wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed gyda’i frodyr o oed ifanc, gan fwynhau chwarae yn y gôl o’r cychwyn. Ei arwr mawr o’r byd pêl-droed pan oedd yn fachgen ifanc oedd Peter Schmeichel, gôl-geidwad Manchester United (Man Utd) a thîm cenedlaethol Denmarc. Bu’n gefnogwr brwd o glwb Man Utd gydol ei oes.            

Pan oedd Owain yn naw oed, cafodd haint difrifol ar yr ysgyfaint. Gorfod iddo gael llawdriniaeth fawr yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a chymerodd fisoedd iddo wella’n ddigon da i fedru chwarae pêl-droed eto.

Ar ôl symud i’r ysgol uwchradd, cafodd Owain ei ddewis i chwarae yn y gôl i dîm Arfon. Wrth chwarae ei gêm gyntaf dros Arfon, cafodd wahoddiad gan sgowt o glwb Man Utd a thîm Chymru i fynd i ymarfer gyda thîm dan 14 Cymru. Cafodd gynnig i fynd i glwb Man Utd er mwyn iddyn nhw ei asesu hefyd.

Bob gwyliau ysgol am dair blynedd yn dilyn hynny byddai Owain yn ymarfer a chwarae gyda thîm 14-15 oed Man Utd yn eu canolfan ymarfer yn Carrington, rhyw ddeng milltir o Old Trafford.

Yn dilyn hynny, treuliodd Owain gyfnodau yn ymarfer gyda chlybiau Lerpwl, Everton a Wolves. Pan oedd yn 16 oed, cafodd ysgoloriaeth am dair blynedd i chwarae i dimau ieuenctid Crewe Alexandra, oedd ar y pryd yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Lloegr.

Ym mis Tachwedd 2003, pan oedd Owain yn 17 oed, cafodd ei gap cyntaf i dîm dan 17 oed Cymru yn erbyn Azerbaijan. Rhwng 2004 a 2006, cynrychiolodd tîm Cymru dan 19 oed.

Wrth chwarae gêm i dîm dan 19 oed Crewe yn erbyn Manchester City, torrodd Owain ei goes ac fe fethodd â chwarae pêl-droed am bron i flwyddyn. Pan ddaeth ei ysgoloriaeth i ben ym mis Mehefin 2006, fe arwyddodd Owain i glwb Crewe am ddwy flynedd arall, a chwaraeodd 11 o weithiau i dîm dan 21 oed Cymru yn ystod 2007-2008.

Yn dilyn ei gyfnod gyda Crewe, arwyddodd Owain i glwb Stockport County ar gyfer tymor 2008-09, a cafodd ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn yno yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

Yna, yn 2009, cafodd alwad gan John Toshak, y rheolwr ar y pryd, i garfan tîm cyntaf Cymru ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pwyl ym Mhortiwgal. Buodd ar y fainc am 29 o gemau cyn cael ei gap cyntaf mewn gêm yn erbyn yr Iseldiroedd yng Nghaerdydd ar 16 Tachwedd 16 2015.

Yn y cyfamser, bu Owain ar fenthyg i dîm Bury am ddau fis yn 2010 ac yna, ym mis Ionawr 2011, ar ôl chwarae dros 80 o gemau i Stockport, arwyddodd i glwb Rochdale. Chwaraeodd 22 o weithiau i Rochdale yn ystod ei gyfnod yno.

Symudodd Owain i dîm Tranmere Rovers yn nhymor 2011-12, gan chwarae yn y gôl i’r tîm cyntaf am bedair blynedd.

Ar ôl gadael Tranmere Rovers, fe arwyddodd Owain i dîm Inverness Caledonian Thistle yn yr Alban ym mis Gorffennaf 2015, ac arhosodd gyda’r clwb am dair blynedd. Aeth ar fenthyg am dymor i glwb Indy Eleven yn 2018, lle cafodd ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn.

Arwyddodd Owain i glwb Hamilton Academical ym mis Mehefin 2019, ac i Dunfermline Athletic yn 2020.

Roedd Owain yn aelod o garfan Cymru a gystadlodd yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2016 yn Ffrainc. Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau’r byd pêl-droed ers 1958. Cyrhaeddodd tîm Cymru rownd gynderfynol Ewro 2016, oedd yn gamp aruthrol, cyn colli yn y pen draw i Bortiwgal o 2 gôl i 0.

Ym mis Ebrill 2022, ar ôl chwarae dros 500 o gemau proffesiynol ar draws Lloegr, yr Alban ac UDA, fe ymddeolodd Owain o chwarae pêl-droed yn broffesiynol, a dechreuodd ar ei yrfa fel hyfforddwr gôl-geidwaid i dîm Northern Colarado Hailstorm FC yn UDA. Yn hwyrach y flwyddyn honno, gweithiodd fel hyfforddwr i dîm cyntaf Fleetwood Town yn Lloegr, ac ym Mehefin 2025, ymgymerodd â’r un rôl yn Bolton Wanderers.

Mae gan Owain nifer o ddiddordebau y tu hwnt i bel-droed, yn cynnwys pysgota a chwarae’r gitâr. Mae hefyd yn arlunydd dawnus ers ei ddyddiau yn yr ysgol gynradd, a phan oedd yn iau, arferai ymarfer ei sgiliau arlunio trwy wneud lluniau o fenyg gôl-geidwaid ac esgidiau pêl-droed. Roedd wrth ei fodd yn astudio celf yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle, ac yn ystod ei gyfnod ar brentisiaeth gyda Crewe Alexandra, byddai’n mynychu Coleg South Cheshire er mwyn astudio Celf Lefel A.

Yn dilyn y cyfnod yma rhoddodd Owain y gorau i arlunio am rhyw wyth mlynedd, ond yn raddol penderfynodd ailafael yn y brwsh paent. Dechreuodd drwy ddarlunio’r chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle, lle bu ei daid yn chwarelwr, ac mae’r thema honno yn parhau yn amlwg iawn yn ei waith.

Ymhen amser, cychwynnodd gyfuno ei gariad at bêl-droed â’i hoffter o arlunio, trwy bortreadu aelodau o garfan Cymru a chyffro pencampwriaeth Ewro 2016 yn ei bortreadau olew ar gynfas. Bellach, mae ei waith wedi ei arddangos mewn nifer o leoliadau, ac mae tri o’i ddarnau – sef portreadau o gyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a’r ddau gyn-gapten, Gareth Bale ac Ashley Williams – yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.



Trafod a mynegi barn 

*Cydnabyddiaeth – daw’r dyfyniadau o lyfr Rhwng y Pyst, Owain Fôn Williams, Gwasg Y Lolfa, 2017.

Arwyddair tîm pêl-droed Cymru yw: 

“Gorau Chwarae Cyd Chwarae”

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth yw ystyr y geiriau hyn?
  • Ydy hwn yn arwyddair da, yn eich barn chi? Pam? 
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Mae arlunio yn help i mi ddianc o hwrlibwrli’r byd pêl-droed. Mae’n therapi i mi. Pan fydda i yn y gôl mi fydda i’n cael fy ngalw’n bob math o enwau gan y dorf o ’nghwmpas. Mae gorfod perfformio’n foddhaol o flaen miloedd o bobl bob wythnos hefyd yn rhoi rhywun dan bwysau. Felly, mae medru dianc ar ôl dod adra i’r cwt peintio ar waelod yr ardd a chodi’r brws yn andros o bwysig i mi. Yno, dwi’n medru cau’r drws ar y byd a’i bethau ac ymlacio’n llwyr.” 

Trafodwch fel grŵp:

  • Pam ei bod hi’n bwysig medru dianc ac ymlacio pan fyddwn ni’n teimlo o dan bwysau, yn eich barn chi?
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud er mwyn ymlacio pan fyddwch chi’n teimlo o dan bwysau?
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Cael bod yn Ffrainc gyda charfan Cymru yn ystod haf 2016 oedd y profiad mwyaf cyffrous a ges i erioed, heb os.” 

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth yw’r profiad mwyaf cyffrous i chi ei gael erioed?
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Roeddwn i wedi bod yn aelod o’r garfan genedlaethol ers rhai blynyddoedd ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo’n browd iawn. Yn fy meddwl i, dyna’r anrhydedd fwyaf roedd yn bosibl i mi ei hennill fel pêl-droediwr proffesiynol... Mae hi wedi bod yn bleser pur bod yn aelod o garfan Cymru. Cymro ydw i a dwi’n barod i wneud unrhyw beth dros fy ngwlad.”

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth mae’r geiriau hyn yn ei ddeud wrthom ni am Owain fel person a’r hyn sy’n bwysig iddo, yn eich barn chi?
     

Chwarae pêl-droed dros Gymru oedd breuddwyd Owain ers iddo fod yn fachgen bach.

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth yw breuddwyd neu uchelgais pob aelod o’r grŵp? Beth fydd yn rhaid i chi wneud er mwyn gwireddu’r freuddwyd neu’r uchelgais honno, yn eich barn chi?
     
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Erbyn diwedd ymgyrch Ewro 2016 mi wnaeth nifer o’r hogia eraill ddweud gair neu ddau yn y Gymraeg ar y cyfryngau. Doedden nhw erioed wedi gwneud hynny o’r blaen. Ond i mi, roedd hyn yn dangos pa mor browd yr oeddan nhw o gynrychioli eu gwlad a’u bod nhw am ddathlu eu Cymreictod ar bob lefel bosibl.”

Trafodwch fel grŵp:

  • Pa mor bwysig yw hi bod chwaraewyr tîm pêl-droed yn dangos eu bod nhw’n falch o’u Cymreictod ac yn ceisio siarad cymaint â phosibl o Gymraeg, yn eich barn chi? Ydyn nhw’n fodelau rôl pwysig, yn hyn o beth? Pam?
     
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Dwi wedi dysgu, beth bynnag fo’r her sydd yn ein hwynebu, trwy waith caled, cydweithio a chyd-dynnu mae’n bosib cyflawni unrhyw beth.”

Trafodwch fel grŵp:

  • Ydych chi’n cytuno â’r geiriau hyn?
  • Allwch chi feddwl am enghraifft o adeg pan rydych chi wedi gorfod gweithio’n galed, cydweithio a/ neu gyd-dynnu er mwyn cyflawni rhywbeth heriol?
  • Sut oeddech chi’n teimlo ar ôl llwyddo?
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Mae carfan Cymru yn wahanol. Nid criw o bobl ydan ni sy’n digwydd chwarae pêl-dreod gyda’n gilydd. Rydyn ni’n fêts ac wedi bod felly ers blynyddoedd lawer.”

Trafodwch fel grŵp:

  • Pa mor bwysig oedd y ffaith fod aelodau carfan Cymru yn gymaint o ffrindiau, yn eich barn chi? Sut wnaeth hyn ddylanwadu ar eu llwyddiant nhw ym mhencampwriaeth Ewro 2016?
     
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Mae ymlacio yn hollbwysig i chwaraewr proffesiynol ymhob maes. Mae cael seibiant o’r holl ymarfer corfforol bron mor bwysig â’r ymarfer ei hun. Mae’n bwysig teimlo’n ffres wrth fynd i ymarfer a chwarae mewn gêm.” 

Trafodwch fel grŵp:

  • Ydych chi’n cytuno bod ymlacio yn bwysig i chwaraewyr proffesiynol? Pam?
  • Beth fyddwch chi’n hoffi ei wneud er mwyn ymlacio? 
     
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Pan oeddwn i’n fach roedd gen i ddau obsesiwn. Y cynta, wrth gwrs, oedd pêl-droed, a’r ail oedd arlunio.” 

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth ydych chi hoffi ei wneud yn fwy na dim arall yn y byd? Pam? Sut ydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n cael cyfle i wneud eich hoff beth??          
     
Yn ôl Owain Fôn Williams: 

“Un o gryfderau tîm Cymru yn ymgyrch Ewro 2016 oedd y ffaith nad oedd yr hogia byth yn barod i roi fyny.”

Trafodwch fel grŵp:

  • Pa mor bwysig yw dyfalbarhad â pheidio ag ildio, yn eich barn chi? Allwch chi feddwl am adeg pan rydych chi wedi gorfod dangos dyfalbarhad er mwyn llwyddo?
Trafodwch fel grŵp:
  • Beth yw rhinweddau rheolwr neu gapten da, yn eich barn chi?

Roedd portreadau Owain Fôn Williams o Gareth Bale, Ashley Williams a Chris Coleman yn rhan o’i arddangosfa ‘Arwyr’

Trafodwch fel grŵp:

  • Beth sy’n gwneud ‘arwr’, yn eich barn chi?
  • Pwy yw eich arwr chi?
     
Trafodwch fel grŵp:
  • Beth mae dyfyniadau Owain Fôn Williams i gyd-fynd âi bortreadau o Gareth Bale, Ashley Williams a Chris Coleman yn ei ddweud wrthoch chi am ei berthynas â’r tri a’i agwedd tuag atynt?

     

Adnoddau cysylltiedig

Timau Pêl-droed Cymru

Timau Pêl-droed Cymru

Eitemau sy'n berthnasol i hanes timau Pêl-droed Cymru

Clip Cymru: clipiau chwaraeon o BBC Cymru Wales

Clip Cymru: clipiau chwaraeon o BBC Cymru Wales

Porwch dewis o glipiau chwaraeon o Archif Ddarlledu Cymru

enwogion.cymru

enwogion.cymru

Dewch i ddarganfod mwy am Gymry enwog o’r gorffennol.