Pecyn Gwaith i Athrawon
Cefndir
Cafodd yr adnodd hwn ei gynllunio drwy gyd-weithio â’r artist Kim James-Williams, ac mae’n cynnig cymorth i addysgwyr sy’n astudio ‘Salem’ gan Sidney Curnow Vosper (1866-1942).
Mae’r gwaith mewn dyfrlliw yn darlunio’r olygfa o oedfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech, gyda’r cymeriad Siân Owen yn ei gwisg draddodiadol Gymreig yn dal llyfr emynau yn ganolog i’r llun. Ar hyd y degawdau daeth ‘Salem’ yn symbol eiconig o hunaniaeth Gymreig a’r traddodiad anghydffurfiol yng Nghymru.
Creodd Vosper ddau fersiwn o ‘Salem’ yn ystod ei oes. Cafodd y cyntaf ei greu ym 1908, a’i arddangos yn Llundain lle fe’i prynwyd gan y diwydiannwr William Hesketh Lever a’i defnyddiodd er mwyn hyrwyddo gwerthiant ei gynnyrch ‘Sunlight Soap’. Yn sgil hyn daeth y ddelwedd yn un eiconig ar draws Prydain.
Fe grëwyd yr ail fersiwn o ‘Salem’, a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, sydd ond ychydig yn wahanol i’r gwreiddiol ar gyfer Frank Treharne James, cyfreithiwr o Ferthyr, a brawd-yng-nghyfraith yr artist yn 1909.
Credai nifer eu bod yn medru gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl Siân Owen, a greodd dipyn o gynnwrf ynglŷn ag ystyr y llun. Tybier rhai bod y ddelwedd o’r diafol yn rhybudd i bobl yn erbyn pechod balchder, a bod Siân Owen yn euog o’r fath pechu drwy wisgo ei siôl Baisli gorau i fynychu’r gwasanaeth. Tybier hefyd fod Siân Owen yn cynrychioli’r ffigwr o’r ‘Fam’ yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cwestiynau posib i'w trafod
- Beth welwch chi?
- Beth yw eich argraff o'r person yn y paentiad?
- Pa siapiau welwch chi yn y llun?
- Beth yw'r prif bwynt ffocws?
- Allwch chi synhwyro naws arbennig yn y paentiad?
- Allwch chi weld unrhyw beth yn ei siôl?
- Yn eich barn chi, beth sy'n dda am y llun?
Syniadau am weithgareddau
- Copïwch y paentiad a chanolbwyntiwch ar siapiau a thôn geometrig.
- Canolbwyntiwch ar bersbectif y llun.
- Creu fersiwn 3D gyda chardbord. Amlygwch y blaendir, y cefndir a'r tir canol.
- Creu llun ac ychwanegu 'ffigwr cudd' o fewn y llun.
Profiadau dysgu
(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Datblygu technegau creadigol
- Meistroli technegau creadigol
- Datblygu a mireinio dyluniadau
Dyniaethau
- Deall y gorffennol
-
Tebygrwydd a gwahaniaethu cymdeithasol