Symud i'r prif gynnwys

Cefndir

Ar 15 Medi 1963, plannodd y grŵp eithafol y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama, gan ladd pedair merch ddu a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul yno.

Cyffyrddodd y weithred hon o derfysgaeth â chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr artist John Petts a oedd ar y pryd yn byw yn Llansteffan. Cynigiodd ei wasanaeth drwy ddylunio ffenest gwydr lliw newydd ar gyfer yr eglwys, a gyda chymorth y Western Mail lansiodd ymgyrch i godi arian ar gyfer yr apêl.  Tyfodd yr ymgyrch wrth i’r arian lifo i mewn, gyda'r Western Mail yn cyhoeddi delweddau o resi o bobl Gymreig o bob tras yn aros i roi’r hyn oedd ganddyn nhw tuag at yr achos.

Ymwelodd Petts â’r eglwys gan weithio ar y dyluniad dros gyfnod o flwyddyn ac roedd y  dyluniadau terfynol gan Petts yn darlunio Crist croenddu gyda’i freichiau ar led, ac yn cael eu hystyried yn ddadleuol ar y pryd. Mae’r dynluniadau hyn yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn 1965, gosodwyd y ffenest yn ei lle, wedi’i chyflwyno gyda’r geiriau ‘Given by the people of Wales’. Heddiw, mae’r ffenest yn cael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’ ac y mae’n symbol eiconig o’r mudiad hawliau sifil Americanaidd.

Mwy o wybodaeth

Cwestiynau i'w trafod

  • Beth ddigwyddodd yn Eglwys Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama ym 1963?
  • Beth oedd ymateb John Petts i'r digwyddiad?
  • Beth oedd yr ymgyrch a lansiwyd gan y Western Mail?
  • Beth yw neges pwysicaf y stori hwn?
  • Sut mae celf yn cysylltu pobl?

Gweithgareddau

  • Trafodwch beth ddigwyddodd yn Birmingham, Alabama
  • Ymchwiliwch ymateb yng Nghymru i'r digwyddiad yn Birmingham, Alabama.
  • Ymchwiliwch y Mudiad Hawliau Sifil yn yr UDA.
  • Dadansoddwch y symbolau gwahanol sydd i'w gweld yng ngwaith John Petts.
  • Dyluniwch ffenest lliw ar gyfer yr eglwys yn Alabama.

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Cyfleu syniadau
  • Cynrychioli hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol
  • Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
  • Archwilio diben ac ystyr
Dyniaethau
  • Effaith dynol ar y byd
  • Deall syniadau a safbwyntiau
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Hunaniaeth
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Gwrando gydag empathi a pharch
  • Deall safbwyntiau

Astudiaeth achos

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Ysgol Uwchradd Cathays i ddysgu mwy am eu cynefin a chymunedau amrywiol Caerdydd. Gweithiodd y Llyfrgell gydag UNIFY (artistiaid sydd wedi creu nifer o furluniau enwog yng Nghaerdydd) i gyflwyno 6 gweithdy gyda dysgwyr Blwyddyn 7 mewn gwersi celf. Cyd-gynlluniodd y dysgwyr furlun sy'n dathlu amrywiaeth y gymuned ac arddangos sut y gallai celf gysylltu pobl. Ysbrydolwyd dyluniad y murlun gan 'The Wales Window' gan John Petts.

Mwy o wybodaeth

Darllen pellach

Y Bywgraffiadur Cymreig - PETTS, RONALD JOHN (1914 - 1991), artist PETTS, RONALD JOHN (1914 - 1991), artist | Y Bywgraffiadur Cymreig

Wales Window for Alabama - Observations on Religion in Birmingham, Alabama, by Samford University Religious Studies Students https://magiccityreligion.org/2020/04/01/wales-window-for-alabama/

American civil rights: the Welsh connection - https://www.theguardian.com/artanddesign/2011/mar/06/racist-attack-alabama-1963-gary-younge