Symud i'r prif gynnwys

Cefndir

Mae gan Gymru draddodiad hir o rannu straeon. Cyn iddynt gael eu hysgrifennu trosglwyddwyd y straeon hyn ar lafar o un genhedlaeth i'r llall. Byddai un person yn adrodd y stori a glywsant, a byddai rhywun arall oedd yn gwrando yn dysgu'r stori ac yn ei hadrodd i eraill o'r cof, gan gadw'r stori'n fyw. Mae’r dudalen hon yn cynnwys detholiad bychan o straeon gwerin sydd wedi’u rhannu ledled Cymru.

Un o'r chwedlau gwerin enwocaf yw'r Mabinogi; chwedlau o'r Oesoedd Canol. Mae’r rhain yn gymysgedd hynod ddiddorol o chwedlau dramatig a dirgel am hud, trasiedi, rhamant, ffantasi, hiwmor, brad, gwrthdaro, cyfiawnder, antur, moesoldeb, a natur ddynol. Ceir un ar ddeg o straeon i gyd, ac maent yn cynnwys y straeon rhyddiaith cynharaf a geir yn unrhyw le ym Mhrydain. 

Cyrhaeddodd Abram Wood, storïwr Sipsi Romani, Gymru yn y 18fed ganrif ac roedd yn adnabyddus am rannu straeon gwerin cyffrous. Mae'r rhan fwyaf o'r straeon wedi'u lleoli mewn coedwigoedd tywyll ac yn cynnwys arwr o'r enw Jack. Mae’r straeon yn cynnwys chwedlau iasoer, llawn hud a lledrith, creaduriaid o bob math a throeon trwstan. Heddiw, mae storïwyr yn dal i rannu addasiadau o'i straeon.

Cymeriad chwedlonol arall yw Twm Sion Cati, sydd weithiau'n cyfateb i Robin Hood neu Rob Roy. Mae chwedl yn adrodd hanes Twm, dyn â dwy hunaniaeth. Yn ystod y dydd, roedd yn cael ei adnabod fel yr uchel ei barch Thomas Jones. Ond wrth i'r nos ddisgyn, fe drawsnewidiodd i'r gwas drwg-enwog a chyfrwys, Twm Sion Cati.

Cwestiynau i'w trafod

  • Beth sy'n gwneud stori werin dda?
  • Sut y rhannwyd y chwedlau hyn?
  • Sut maen nhw wedi'u haddasu heddiw?

Gweithgareddau

  • Cymharwch - a oes tebygrwydd i rai o'r chwedlau hyn?
  • Ail-greu - allwch chi berfformio a ffilmio un o'r straeon hyn?
  • Rhannu - Dywedwch y stori yn uchel. Ydy’r dysgwyr yn gallu cofio’r stori i’w rhannu eto?
  • Addasu - Addaswyd llawer o'r straeon hyn dros y blynyddoedd, a all y dysgwyr wneud mân newidiadau i'r stori i roi eu stamp eu hunain arni?

Profiadau dysgu

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Iaith a pherthyn
  • Gwrando a deall
  • Defnyddio dychymyg
  • Deall llenyddiaeth
Y Celfyddydau mynegiannol
  • Cynrychioli hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol
  • Perfformio
  • Archwilio pwrpas ac ystyr
Y Dyniaethau
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Hunaniaeth
  • Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol

 

Y Mabinogi

Wyt ti wedi clywed son am y cawr Bendigeidfran a’i chwaer Branwen? Glywes di stori am Gwydion y dewin a Blodeuwedd, y ferch gafodd ei chreu o flodau? Mae’r chwedlau hyn yn rhan o straeon y Mabinogi, ac mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf o’r Mabinogi i’w weld yn Llyfr Gwyn Rhydderch.

Mwy o wybodaeth am Lyfr Gwyn Rhydderch

Welsh Gypsy Folk-tales gan John Sampson

Mae'r llyfr hwn yn cynnwys straeon ac erthyglau am chwedlau Cymreig y Sipsiwn, yn bennaf o The Journal of the Gypsy Lore Society, a gasglwyd a golygwyd gan John Sampson rhwng 1891-1930. Daeth y chwedlau gwerin hyn i Gymru gydag Abram Wood a Sipsiwn Romani eraill pan gyrhaeddon nhw Gymru yn y 18fed ganrif. Dyma stori o'r enw 'Winter' (Saesneg yn unig).

Dysgwyr Ysgol Gymunedol Monkton yn ail-ddweud stori 'Winter' (Saesneg yn unig).

Teulu Romani gyda vardos, wrth Abertawe, Geoff Charles, 1953

Twm Siôn Cati

Chwedl werin boblogaidd i bobl gorllewin Cymru yn arbennig gan fod y straeon wedi eu seilio o gwmpas Tregaron. Yn seiliedig ar berson go iawn, mae rhai o'i straeon yn fwy gwir nag eraill. Mae'n aml yn cael ei gymharu â Robin Hood, yn ymladd dros y bobl gyffredin ac yn gwrthwynebu'r awdurdodau.

Astudiaeth achos

Mae prosiect Cymunedau Cymru wedi cefnogi Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priordy i ddysgu mwy am adrodd straeon yng Nghymru. Mae tua 40% o ddysgwyr Monkton Priordy o gefndir Sipsiwn a Theithwyr. Cymerodd y dysgwyr ran mewn gweithdy adrodd straeon gyda'r awdur Richard O'Neill a sesiwn creu ffilmiau a drefnwyd gan Into Film Cymru. Cynhyrchodd y grŵp eu fideos eu hunain yn seiliedig ar neges Richard O'Neill 'Trin eraill fel yr hoffech chi gael eich trin'.

Mwy o wybodaeth