Cefndir
System yn Ne Affrica oedd apartheid oedd yn gwahanu pobl ar sail lliw eu croen a barhaodd rhwng 1948 a 1991. Roedd Apartheid yn gwahaniaethu yn erbyn pobl Du neu Frown ac yn sicrhau bod De Affrica yn cael ei dominyddu yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd gan boblogaeth leiafrifol gwyn y genedl.
Roedd llawer o bobl yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn anghytuno ag apartheid ac yn protestio pan ddaeth timau chwaraeon o Dde Affrica ar daith o amgylch Prydain. Ceisiodd y protestwyr amharu ar deithiau criced a rygbi De Affrica yn bennaf - doedd chwaraewyr Du ddim yn cael chwarae i'r tîm. Roedd pobl yn dechrau dysgu am wirionedd ofnadwy apartheid - serch hynny nid oedd y byd chwaraeon am wrando. Yn ystod taith Rygbi De Affrica ym 1969 bu protestio yn erbyn apartheid tu allan i nifer o gemau rygbi, ond gwelwyd un o'r digwyddiadau mwyaf ar y 15fed o Dachwedd yn San Helen, Abertawe. Bu wrthdaro ffyrnig rhwng protestwyr a’r heddlu, gyda dros 100 wedi’u hanafu gan gynnwys 11 o blismyn.
Cwestiynau posib i'w trafod
- Beth yw apartheid?
- Pwy oedd Nelson Mandela?
- Pam roedd pobl o Gymru yn protestio yn erbyn timau chwaraeon o Dde Affrica?
- Pwy yw Peter Hain?
- Pam dderbyniodd Peter Hain lythyrau bygythiol?
- Beth ddigwyddodd yn Abertawe ar 15 Tachwedd 1969?
- Pam mae'n cael ei adnabod fel Brwydr Abertawe?
- Sut mae'r orymdaith protest hwn yn cymharu â gorymdeithiau protest hawliau sifil mwy diweddar?
Syniadau am weithgareddau
- Cymharwch amrywiaeth timau rygbi o Dde Affrica yn 1969 â rhai heddiw.
- Ymchwiliwch apartheid yn Ne Affrica a'r rhan a chwaraeodd Nelson Mandela.
- Ymchwilio mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru a’r DU a’u gweithgareddau.
- Archwiliwch archif Peter Hain i gael mwy o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod 'Brwydr Abertawe'.
- Gwyliwch fideos o brotestiadau gwrth-apartheid yng Nghymru.
- Copïwch arddull poster 'Racism is a Poison' gan Paul Peter Piech.
Profiadau dysgu
(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Iaith a pherthyn
- Gwrando a deall
- Deall safbwyntiau
Y Celfyddydau mynegiannol
- Cynrychioli hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol
- Archwilio pwrpas ac ystyr
Y Dyniaethau
- Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
- Hunaniaeth
- Tebygrwydd a gwahaniaethau cymdeithasol
- Deall hawliau dynol
- Dehongli ffynonellau a gwybodaeth
- Datblygu llwybrau ymholi
- Systemau llywodraethu