Cefndir
Mae Cymru yn gymdeithas amlddiwylliant sy'n cynnwys nifer o ethnigrwyddau, ieithoedd a chrefyddau. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog o amrywiaeth, gan ei bod yn gartref i un o'r cymunedau hynaf o bobl Ddu yn Ewrop, ac mae ei datblygiad, ei hymdrechion i greu cyfoeth, ei hysbryd a'i chysylltiadau rhyngwladol yn adlewyrchu cyfraniadau cryf gan gymunedau lleiafrifol ddoe a heddiw. Mae hanes a datblygiad Cymru yn y byd yn hanes amlhaenog sy'n cynnwys enghreifftiau o wrthdaro ac undod a chlymbleidiau, ac o bobloedd yn mudo ac yn cyfrannu mewn ffordd fuddiol. Mae hanes Cymru yn darparu'r cyd-destun ar gyfer meithrin gwybodaeth ac mae'n galluogi dysgwyr i greu cysylltiadau rhwng eu profiadau cyfoes o gysylltiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae hanes Cymru yn hanes o wahaniaeth ac amrywiaeth. Nid yw amrywiaeth ethnig yn fygythiad i Cymru, ond yn hytrach, yn rhan o'i chymeriad hanesyddol. Mae deall hynny yn hanfodol i hunaniaeth dysgwyr. Dylai cydnabod hyn helpu pawb i deimlo eu bod yn perthyn i Gymru.
(Dyfyniad o Adroddiad Llywodraeth Cymru - Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd, Mawrth 2021)
Gall yr adnoddau dysgu ar y dudalen yma helpu athrawon a dysgwyr i:
- Fod yn ymwybodol o’r amrywiol bobl, diwylliannau, a chymunedau sy’n byw yng Nghymru.
- Ymchwilio hunaniaeth yng Nghymru.
- Gweld Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol amrywiol.
- Dysgu am unigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol yng Nghymru.
Cwestiynau posib i'w trafod
Syniadau am weithgareddau
- Creu fideo o'ch cynefin gan gynnwys y gwahanol gymunedau yn eich ardal.
- Gweithgaredd glôb eira
- Ymgysylltu â grŵp cymunedol yn eich ardal.
- Cysylltu â theuluoedd - cynnal noson amlddiwylliannol.
- Defnyddio gwybodaeth ddiwylliannol, safbwyntiau a sgiliau dysgwyr fel adnodd ar gyfer addysgu.
- Cysylltu ag ysgol mewn rhan arall o Gymru. Gallai dysgwyr anfon llythyrau, e-byst, a fideos i ddysgu mwy am eu cynefin tra hefyd yn dysgu mwy am ardal wahanol o Gymru.
- Chwilio am fapiau, papurau newydd, fideos a chyfnodolion o gasgliad y Llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth am eich ardal.