Cefndir
Trodd Lloegr a Chymru yn wledydd Protestannaidd wedi i Elisabeth I ddod yn Frenhines Lloegr yn 1558. Roedd yn rhaid i’r frenhines ifanc benderfynu beth fyddai orau i’w theyrnasiad, naill ai gorfodi pobl Cymru i ddefnyddio’r Saesneg, gan beryglu eu bod yn cefnu ar Brotestaniaeth, neu roi’r hawl iddyn nhw gynnal gwasanaethau a darllen o’r Beibl yn Gymraeg.
Pan basiwyd Deddf 1563 yn rhoi’r hawl i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, un o’r amodau oedd y byddai’n rhaid i Esgobion Cymru gytuno ar bwy fyddai’r person gorau i wneud y gwaith. Yn 1578 rhoddwyd yr hawl swyddogol i William Morgan gychwyn ar y cyfieithu. Cwblhawyd y gwaith pan gyhoeddwyd Y Beibl Cyssegr-lan yn Llundain yn 1588, y cyfieithiad cyntaf Cymraeg o’r Beibl cyfan.
Wrth gyfieithu roedd William Morgan wedi addasu cyfieithiad 1567 William Salesbury o’r Testament Newydd a’r Salmau, ond cyfieithodd gweddill y Beibl - Yr Hen Destament – yn uniongyrchol o Hebraeg a Groeg. Roedd yn feistr ar ddarllen yr hen ieithoedd yma, ac am ei fod hefyd yn feistr ar y Gymraeg mae pobl yn dal i ganmol ei gyfieithiad fel campwaith sydd wedi dylanwadu ar yr iaith Gymraeg ers hynny.
Cwestiynau posib i'w trafod
- Sut oedd Cymru yn wahanol yn 1588?
- Sut oedd pobl yn derbyn gwybodaeth yn 1588 o’i gymharu â heddiw?
- Pam wnaeth cyfieithu’r Beibl greu mwy o effaith ar gymdeithas nag unrhyw lyfr arall ar y pryd yng Nghymru?
- Pam wnaeth cyfieithu’r Beibl gymryd gymaint o amser?
- Sut mae peiriannau argraffu wedi newid erbyn heddiw?
Syniadau am weithgareddau
- Ymchwilio pwysigrwydd Beibl 1588 i’r iaith Gymraeg.
- Gwylio'r fideo ac ateb y cwis
- Argraffu bloc pren
Profiadau dysgu
(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)
Dyniaethau
- Deall y gorffennol
- Newidadau dros amser
- Cyfraniad at gymdeithas
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Iaith a pherthyn
- Gwrando a deall
- Amrywiaeth ieithoedd
- Trawsieithu