Cyfieithu Beibl 1588
Gwaith William Morgan oedd y cyfieithiad ardderchog o'r Beibl a ymddangosodd un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Ymddengys iddo benderfynu ymgymryd â'r gwaith rywbryd tuag 1578. Golygai'r dasg enfawr hon addasu cyfieithiad Salesbury o'r Testament newydd yn ogystal â gwaith gwreiddiol ar yr Hen Destament a'r Apocryffa. Seiliodd ei gyfieithiad ar y testunau Hebraeg a Groeg gwreiddiol gan wneud defnydd hefyd o fersiynau Saesneg yr Esgobion a Genefa.