Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: W.s. 58
Yn 1563 pasiwyd deddf yn gorchymyn i esgobion Cymru ac esgob Henffordd drefnu cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin erbyn y 1af o Fawrth 1567.
Ni chyhoeddwyd cyfieithiad o'r Beibl cyfan tan 1588 pan ymddangosodd Beibl yr Esgob William Morgan, ond ar y 6ed o Fai 1567 cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi ac ar y 7fed o Hydref yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Testament Newydd. Cyhoeddwyd y ddau gan Humfrey Toy a'u hargraffu yn Llundain gan Henry Denham.
Cyfieithwyd rhannau o'r Testament Newydd gan Richard Davies, Esgob Tyddewi, a Thomas Huet, Cantor Tyddewi, ond roedd y rhan helaeth o'r Testament Newydd a'r cyfan o'r Llyfr Gweddi yn waith un cyfieithydd, sef William Salesbury. Ganwyd Salesbury yn Llansannan rywbryd cyn 1520 a threulio rhan fwyaf ei oes yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth o dan ddylanwad y Diwygwyr Protestannaidd, yn enwedig Erasmus, a phenderfynu troi o grefydd Pabyddol ei deulu at Brotestaniaeth.
Iaith gogledd Cymru yw iaith Testament Salesbury, ond mae'n cynnwys ffurfiau deheuol mewn nodiadau yn ymylon y tudalennau. Anelodd at eirfa ddysgedig yn ei gyfieithiad yn hytrach na defnyddio iaith pob dydd, a newidiodd orgraff geiriau Cymraeg i beri iddynt ymdebygu i eiriau Lladin. Oherwydd hyn mae iaith Salesbury yn gallu edrych yn ddieithr i ddarllenwyr heddiw, ond mae ei gyfieithiad yn garreg filltir bwysig yn hanes cyhoeddi yn y Gymraeg a hanes darparu'r Ysgrythurau i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain. Roedd hefyd yn gynsail i gyfieithiad William Morgan o'r Beibl cyfan, sef y fersiwn a ddefnyddid gan y Cymry heb lawer o newid am y bedair canrif nesaf.