Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, mae Beiblau personol Harri’r VIII a’i brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi dod at ei gilydd. Cafodd y copïau hardd hyn eu creu yn 1538 neu 1539, eu hargraffu ar femrwm, a’u lliwio gan rai o artistiaid gorau Ewrop. Maen nhw’n dangos sut roedd gwleidyddiaeth a chrefydd yn gysylltiedig yn ystod y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr.
Dydy'r pâr yma o Feiblau, sydd bellach yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, erioed wedi cael eu harddangos ochr yn ochr o’r blaen. Yn ddiweddar, maen nhw wedi cael eu hastudio’n fanwl fel rhan o brosiect ymchwil o’r enw Hidden in Plain Sight, prosiect wedi’i ariannu gan AHRC, sy’n edrych ar sut roedd llyfrau hynafol yn cael eu defnyddio, eu haddasu a’u parchu. Mae llawysgrifau a llyfrau printiedig eraill o’r un cyfnod o gasgliad y Llyfrgell hefyd yn rhan o’r arddangosfa.