Pwy oedd yr almanaciwr, Thomas Jones?
Yr almanaciwr Cymraeg cyntaf oedd Thomas Jones (1648-1713), mab i deiliwr o Feirionnydd. Symudodd i Lundain yn y 1660au, ac ym 1679 rhoddwyd iddo freintlythyr brenhinol yn caniatáu iddo ysgrifennu a chyhoeddi almanac Cymraeg blynyddol, hawl a ddefnyddiodd tan ddiwedd ei oes. Ym 1695 diddymwyd y Ddeddf Argraffu a oedd wedi cyfyngu’r hawl i gyhoeddi llyfrau i argraffwyr yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt. Symudodd Jones i Amwythig, sef prifddinas economaidd canolbarth Cymru ar y pryd, a pharhau gyda’i fusnes argraffu yn y dref honno.