Sefydlwyd Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1939. Ei brif amcan yw galluogi ymchwilwyr i gyhoeddi erthyglau neu nodiadau byrion sy’n seiliedig ar gasgliadau’r Llyfrgell. Cyhoeddir cyfraniadau yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Rhifyn 2007 oedd yr un diwethaf i’w chyhoeddi mewn ffurf brintiedig. Yn 2008 penderfynwyd y byddai'r Cylchgrawn yn ymddangos ar ffurf electronig yn unig gan ei ddarparu yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ar ein gwefan. Bydd erthyglau'n cael eu hychwanegu o bryd i'w gilydd.