Pwy yw awdur "Y Drych Cristianogawl"?
Mae testun printiedig y "Drych" yn ei briodoli i un G.R. o ddinas Milan. Arferid credu mai Gruffydd Robert (cyn 1532 - wedi 1598), y gramadegydd Catholig, oedd y G.R. hwn, gŵr a fu'n preswylio ym Milan am lawer blwyddyn. Bellach sylweddolwyd fod arddull iaith y llyfr yn gwbl wahanol i un Gruffydd Robert ond yn ymdebygu'n fawr i un yr offeiriad cenhadol a'r awdur Robert Gwyn (c.1540/50 - 1592/1604), brodor o Lanarmon ger Pwllheli. Pwnc y "Drych" yw dysgeidiaeth Eglwys Rufain am y Pedwar Peth Olaf, sef Angau, Dydd y Farn, Uffern a'r Nefoedd. Ceir tystiolaeth bod y testun mewn bodolaeth mewn llawysgrif erbyn 1583/84 ac i Gwyn gyfarfod y cenhadon o Saeson Robert Persons ac Edmund Campion yn 1580 i drafod sut i oresgyn y cyfyngiadau cyfreithiol a fodolai ar gyhoeddi llyfrau Catholig. Os mai Gwyn yw'r awdur, nid oes unrhyw dystiolaeth i'w gysylltu â menter Rhiwledyn er ei bod yn gwbl bosibl fod ganddo ran yn y cynllun.