Symud i'r prif gynnwys

Straeon am fôr-forynion

Roedd straeon am fôr-forynion yn weddol gyffredin yn ystod y bymthegfed ganrif, yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae hyd yn oed cyfeiriad at weld môr-forynion yn nyddlyfr Christopher Columbus (1451-1506) ar gyfer 9fed Ionawr 1493. Credwyd y gallai môr-forynion achub morwyr rhag boddi, ond gallent hefyd ddenu llongau i'w tranc. Parhaodd cred mewn môr-forynion, tylwyth teg a chreaduriaid mytholegol eraill mewn llawer o ardaloedd ym Mhrydain hyd y ddeunawfed ganrif ac weithiau hyd yn oed wedi hynny.Yn raddol, yn wyneb gwrthwynebiad yr Eglwys Brotestannaidd, twf llythrennedd, a diwydiannu, daeth diwedd ar y gred mewn creaduriaid o'r fath, er bod nifer o straeon amdanynt wedi goroesi.


Datblygiad argraffu pamffledi

Datblygodd y fasnach bamffledi o ganlyniad i ddyfeisio'r broses argraffu yn y bymthegfed ganrif a thwf yn lefel llythrennedd y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd masnachwyr pamffledi yn aml yn argraffu eu pamffledi eu hunain ac yn eu gwerthu am ychydig geiniogau ar y stryd. Roedd y pamffledi yn aml yn grefyddol neu wleidyddol eu naws.

Roedd gan y cyhoedd hefyd awch am bynciau ysgafnach a mwy difyr. Mae straeon am greaduriaid od, genedigaethau gwrthun, a.y.b. yn ganran sylweddol o gynnyrch y pamffledwyr yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Argraffwyd llawer o'r straeon o'r fath fel baledi a'u canu fel ffurf o adloniant.


Darllen pellach

Am fwy am hynod bethau a choel gwerin yn ystod y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif :

  • David Cressy. Agnes Bowker's Cat : travesties and transgressions in Tudor and Stuart England. Oxford : University Press, 2001.
  • Keith Thomas. Religion and the Decline of Magic : studies in popular belief in sixteenth and seventeenth century England. London : Weidenfield & Nicholson, 1991.

Am fwy ar y fasnach bamffledi:

  • Joad Raymond. Pamphlets and pamphleteering in early modern Britain. Cambridge : Cambridge University Press, 2003.