Dolenni perthnasol
- ‘Harvey, Gabriel (1552/3–1631)’, Oxford Dictionary of National Biography [gwelwyd 15 Mai 2013]
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeirnod: Rhif silff b80 B2(3)
Dyma gopi, dyddiedig 1580, o Il Principe (Y Tywysog) gan Niccolò Machiavelli, ynghyd â dau waith Protestannaidd dadleuol. Cyhoeddwyd y gyfrol gan yr argraffydd Protestannaidd Pietro Perna o Fasel. Yn 1560 cyhoeddodd gyfieithiad Lladin gan Sylvester Telius o Y Tywysog; yn 1580 fe'i hailargraffodd a'i rwymo gyda thraethawd Huguenot, Vindiciae contra tyrannos, a De iure magistratuum gan Theodore Beza.
Bu'r copi hwn yn berchen i Gabriel Harvey, llenor Seisnig o'r 16/17eg ganrif, ac mae'n cynnwys nodiadau yn ei law.
Mae'n bosib bod Niccolò Machiavelli, yr athronydd gwleidyddol enwog a dadleuol, yn fwyaf enwog am ei waith Il Principe (Y Tywysog), llawlyfr gwleidyddol ar sut i reoli ac ymarfer pŵer. Ganwyd ef yn Fflorens yn 1469, i hen deulu Fflorensaidd gyda hanes o gysylltiadau gwleidyddol ond heb gyfoeth sylweddol. Etifeddodd gredoau am werth addysg gan ei dad, Bernardo, cyfreithiwr a dyneiddiwr addysgedig. O'i flynyddoedd cynnar, derbyniodd Machiavelli addysg ddyneiddiol orau'r cyfnod. Dechreuodd ddysgu Lladin yn 7 mlwydd oed, a phan oedd yn hŷn mynychodd ddarlithoedd ym Mhrifysgol Fflorens.
Cychwynnodd gyrfa wleidyddol Machiavelli ym Mehefin 1498 pan etholwyd ef yn 2il Ganghellor i Gyngor Mawr Fflorens, ac yn ddiweddarach fe'i hapwyntiwyd yn ysgrifennydd i La Guerra dei Dieci ('Ten of War'), sef pwyllgor a oedd yn gyfrifol am bolisi tramor a lluoedd arfog Fflorens. Yn hwyrach, daeth yn gennad diplomyddol i'r llywodraeth weriniaethol a olygai bod angen iddo negodi gyda brenhinoedd, ymerawdwyr a phabau. Yn ddiweddarach fe'i hanwybyddwyd am wyth mlynedd gan y Medici, sef y teulu a ddychwelodd i bŵer yn 1512. Y flwyddyn ganlynol, arestiwyd, carcharwyd ac arteithiwyd ef o dan ddrwgdybiaeth o fod yn rhan o gynllwyn yn erbyn y Medici. Fe'i rhyddhawyd ychydig yn ddiweddarach, a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes yn ysgrifennu.
Awdur a anwyd yn Essex oedd Gabriel Harvey. Roedd yn ysgolhaig nodedig a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt lle yr enillodd gymrodoriaeth yn Neuadd Penfro. Casglodd Harvey lyfrgell sylweddol ac arferai wneud nodiadau helaeth yn ei lyfrau. Mae'r copi hwn yn cynnwys ei lofnod a nodiadau ganddo mewn llawysgrif.
Bu'r copi hwn o Vindiciae Contra Tyrannos yn eiddo i Robert Williams Vaughan o Hengwrt, ac mae'n cynnwys label perchnogaeth ganddo o'r 19eg ganrif.