Symud i'r prif gynnwys

Y Bwrdd Amaeth

Sefydlwyd y Bwrdd Amaeth gan Syr John Sinclair yn dilyn ei 'Plan for Establishing a Board of Agriculture and Internal Improvement' (1793). Derbyniodd y bwrdd grant o £3000 y flwyddyn ac roedd yn cynnwys 31 aelod cyffredin a llywydd, pob un ohonynt yn fonheddwyr neu'n uchelwyr cefnog. Comisiynodd y Bwrdd gyfres o 'Adroddiadau Sirol' o arolygon a chyfrifon ystadegol gyda'r bwriad o gyhoeddi 'Adroddiad Cyffredinol'ar gyflwr amaeth drwy Gymru a Lloegr. Gobaith Sinclair oedd gweld yr adroddiad yn cynnau ysbryd newydd o fenter, abrawf a chynhyrchaeth yn y gymuned amaethyddol.

Yn 1797 apwyntiwyd Walter Davies ('Gwallter Mechain') i ymgymryd â'r arolwg o ogledd Cymru. Gwnaed cymaint o argraff ar Sinclair gan ei gynnydd cyflym, fe'i comisiynwyd i wneud arolwg o siroedd de Cymru hefyd.


Pwy oedd Walter Davies?

Ganed Walter Davies (1761-1849) yn Llanfechain, Sir Drefaldwyn. Wedi graddio o Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1795 fe'i hordeiniwyd yn 1795 aeth yn gurad Meifod, ac wedi hynny i Ysbyty Ifan, Sir Ddinbych. Yn 1807 daeth yn unig beriglor Manafon, Sir Drefaldwyn cyn symud i Lanrhaeadr-ym-Mochnant ym 1837.

Roedd Walter Davies yn fardd toreithiog, yn hynafiaethydd ac yn feirniad llenyddol. Roedd ganddo hefyd gysylltiadau agos â chylchoedd Cymry Llundain. Ceir casgliad o dros 300 o'i lawysgrifau, gan gynnwys llyfrau nodiadau maes o'i deithiau drwy Gymru ar gyfer llunio ei adroddiadau, yn y Llyfrgell Genedlaethol.


Yr arolygon amaethyddol o Gymru

Cyhoeddwyd yr arolygon mewn 3 cyfrol argraffedig yn 1810 a 1815. Mae pob un yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am arferion amaethyddol ar hyd Cymru yn ogystal ag economi amaethyddol a gwleidyddol yn y cyfnod. Mae sylw Walter Davies at fanylion yn darparu adroddiad ar

  • gyflwr ffermydd;
  • adeiladau amaethyddol;
  • reolaeth ystadau;
  • brydlesau a degymau;
  • y mathau o dda byw a fagwyd; a'r
  • math o gnydau a dyfwyd

Mae'r arolygon hefyd yn cymeradwyo gwelliannau oedd wedi digwydd yn y rhanbarthau ac yn awgrymu ardaloedd ar gyfer datblygiadau pellach mewn dulliau amaethyddol er lles y ffermwr ac economi cefn gwlad.


Darllen Pellach

  • Mari Ellis, 'Gwallter Mechain ar ei Deithiau', Country Quest (October 1997), 48
  • Rosalind Mitchison, 'The Old Board of Agriculture (1793-1822)', English Historical Review, 74 (1959), 41-69